Ynys Bathurst
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Bathurst. Mae'n un o Ynysoedd Queen Elizabeth, yn ne-ddwyrain yr ynysoedd hyn. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut.
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Henry Bathurst |
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 16,042 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
Cyfesurynnau | 75.749722°N 99.783056°W |
Hyd | 117 milltir |
Mae'n ynys fawr, gydag arwynebedd o 16,042 km², ond nid oes poblogaeth barhaol arni. Roedd pobl Thule yn byw yma am gyfnod o tua 1000 OC ymlaen, yn ystod cyfnod o hinsawdd gynhesach. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd gwŷr Syr William Edward Parry yn 1819. Enwodd hi ar ôl Robert Dundas, 2il feicownt Bathurst.