Ynys Bylot
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Bylot (Saesneg: Bylot Island). Mae ganddi arwynebedd o 11,067 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni er bod yr Inuit o Pond Inlet a lleoedd eraill yn ymweld a hi yn gyson.
Math | ynys |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 11,067 km² |
Gerllaw | Lancaster Sound |
Cyfesurynnau | 73.22°N 78.57°W |
Hyd | 182 cilometr |
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Mae'r rhan fwyaf ohoni yn ffurfio Parc Cenedlaethol Sirmilik, sy'n nodedig am adar, yn enwedig Gŵydd yr Eira.