Ynys Dá Bhárr
Mae Ynys Dà Bhàrr[1] (Gaeleg yr Alban: Eilean Dà Bhàrr) neu Ynys Davaar wedi'i leoli yng ngheg Loch Campbeltown oddi ar arfordir dwyreiniol Kintyre, yn Argyll a Bute, yr Alban. Mae'n ynys lanw, yn gysylltiedig â'r tir mawr gan sarn raean naturiol a elwir yn Dhorlin ger Campbeltown ar lanw isel. Gellir croesi'r sarn mewn tua 40 munud.
Math | ynys lanwol |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Argyll a Bute |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 0.52 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 55.4228°N 5.5411°W |
Hyd | 1.2 cilometr |
Roedd Ynys Dà Bhàrr yn cael ei hadnabod fel ynys Sant Barre rhwng y blynyddoedd 1449 i 1508. Daw'r ffurf fodern Saesneg Davaar o'r ffurf hŷn 'Do Bharre' - sef 'Y (Sant) Barre'. Mae'n ymddangos bod Dr Gillies yn ei "Place Names of Argyll" yn derbyn tarddiad poblogaidd y gair bàrr a olygai pen neu bwynt sef Ynys Pwynt Dwbl (Da-Bharr).
Yn 1854, adeiladwyd Goleudy Davaar ar ben ogleddol yr ynys gan beirianwyr goleudai David a Thomas Stevenson. Cafodd y goleudy ei awtomeiddio ym 1983, a heddiw, mae gofalwyr, defaid, geifr a minc yn byw yn Bàrr.
Codwyd The Lookout, adeilad sgwâr sy'n sefyll ar fryn bach yn agos at y goleudy, yn ystod yr Ail Ryfel Byd i gartrefu criwiau llyngesol, a'u tasg oedd ymestyn rhwydi gwrth-danfor ar draws y dŵr, gan amddiffyn Campbeltown. Mae bellach wedi'i rentu allan fel cartref gwyliau.[2][3]
Mae'r ynys hefyd yn adnabyddus am ei saith ogof, ac mae un ohonynt yn cynnwys paentiad ogof maint bywyd yn darlunio'r croeshoeliad, a baentiwyd ym 1887 gan yr arlunydd lleol Archibald MacKinnon ar ôl iddo gael gweledigaeth mewn breuddwyd yn awgrymu iddo wneud hynny. Achosodd y paentiad gynnwrf yn yr ardal gan ei fod yn cael ei ystyried yn arwydd gan Dduw; dywedir, pan ddarganfu'r trigolion mai gwaith MacKinnon ydoedd, ac nid Duw, fe'i halltudiwyd am gyfnod amhenodol. Wedi'i adfer sawl gwaith ers hynny, gan gynnwys ddwywaith gan yr arlunydd gwreiddiol, fandaleiddiwyd y paentiad ym mis Gorffennaf 2006, gyda darlun coch a du o Che Guevara wedi'i baentio dros y campwaith gwreiddiol. Mae wedi cael ei adfer eto ers hynny.[4]
Mae Ynys Dà Bhàrr yn un o 43 o ynysoedd llanw y gellir cerdded iddynt o dir mawr Prydain Fawr ac yn un o 17 y gellir cerdded iddynt o dir mawr yr Alban.[3]
Mae 2 fwthyn ar gael i'w gosod ar gyfer gwyliau.[2]
Stampiau
golyguCyhoeddwyd stampiau lleol ar gyfer Dà Bàrr yn y 1960au. Roedd y stampiau'n gwasanaethu'r nifer fawr o ymwelwyr â'r ynys a oedd yn dymuno i'w post gael ei bostio yno, a'i gludo gan y cychwr i'r Blwch Post GPO agosaf yn Campbeltown ar y tir mawr. Daeth y gwasanaeth cychwr i ben rhywdro'n y 1970au cynnar. Roedd y cyfraddau postio ddwywaith cyfraddau'r DU.[5]
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- ↑ "Island Davaar". Ordnance Survey. Cyrchwyd 7 February 2019.
- ↑ 2.0 2.1 "Davaar Island". Apr 26, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-26. Cyrchwyd Jul 29, 2020.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ 3.0 3.1 Peter Caton (2011) No Boat Required - Exploring Tidal Islands.
- ↑ "Che vandal attacks Christ image". BBC News. 2006-08-01. Cyrchwyd 11 December 2007.
- ↑ "Modern British Local Posts CD Catalogue, 2009 Edition". Phillips. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-05. Cyrchwyd 2008-12-08.