Ynys Ellef Ringnes
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Ellef Ringnes. Mae'n un o Ynysoedd Sverdrup, sy'n ffurfio rhan o Ynysoedd Queen Elizabeth. Er ei bod yn ynys fawr, gydag arwynebedd o 11,295 km2, nid oes poblogaeth barhaol arni.
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Ellef Ringnes |
Poblogaeth | 0 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 11,295 km² |
Uwch y môr | 260 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
Cyfesurynnau | 78.5°N 102°W |
Hyd | 218 cilometr |
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Ceir gorsaf dywydd Isachen ar yr arfordir gorllewinol. Enwyd yr ynys ar ôl Ellef Ringnes, un o gefnogwyr ariannol ymgyrch fforio Otto Sverdrup. Hawliwyd yr ynys gan Norwy o 1902 hyd 1930, pan gytunwyd mai eiddo Canada ydoedd.