Ynys King William
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys King William. Mae ganddi arwynebedd o 13,111 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif heb fod ymhell o dir mawr Canada, i'r gorllewin o Benrhyn Boothia ac i'r dwyrain o Ynys Victoria. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,064; y pentref mwyaf yw Gjoa Haven.
Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | William IV, brenin y Deyrnas Unedig |
Prifddinas | Gjoa Haven |
Poblogaeth | 1,064 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Lleoliad | Cefnfor yr Arctig |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 13,111 km² |
Uwch y môr | 137 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
Cyfesurynnau | 68.97°N 97.23°W |
Hyd | 175 cilometr |
Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut. Mae'r ynys yn adnabyddus am ei phoblogaeth fawr o'r caribŵ, sy'n byw yma yn yr haf cyn mudo tua'r de ar draws y rhew yn yr hydref.