Ynys Prince Patrick

Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Prince Patrick (Saesneg: Prince Patrick Island). Mae'n un o Ynysoedd Queen Elizabeth, gydag arwynebedd o 15,848 km². Nid oes poblogaeth barhaol arni. Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o Diriogaethau'r Gogledd-orllewin.

Ynys Prince Patrick
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−07:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanadian Arctic Archipelago Edit this on Wikidata
SirTiriogaethau'r Gogledd-orllewin Edit this on Wikidata
GwladBaner Canada Canada
Arwynebedd15,848 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau76.75°N 119.5°W Edit this on Wikidata
Hyd240 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Ynys Prince Patrick

Amgylchynir yr ynys gan rew am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, ac mae'n un o ardaloedd mwyaf anhygyrch Canada. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd ymgyrch dan arweiniad Francis Leopold McClintock yn 1853. Enwyd hi, yn ddiweddarach, ar ôl y Tywysog Arthur William Patrick, dug Connaught, fu'n rhaglaw Canada (1911-16).

Ynys Prince Patrick
Ynys Prince Patrick