Ynys Sgomer

(Ailgyfeiriad oddi wrth Ynys Skomer)

Mae Ynys Sgomer[1] (Hen Norseg a Saesneg: Skomer) yn ynys tua thri chilometr sgwâr oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae'n fwyaf adnabyddus fel man nythu i nifer fawr o adar y môr, ac mae yn warchodfa rheolwyd gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, ac yn eiddo i Cyngor Cefn Glad Cymru[2]

Ynys Sgomer
Skomer Island South Wales.jpg
Mathynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2.92 km² Edit this on Wikidata
GerllawSianel San Siôr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7361°N 5.2963°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Ymhlith y pwysicaf o'r rhain mae Aderyn-Drycin Manaw; credir fod tua 250,000 o barau yn nythu ar Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm gerllaw, tua hanner poblogaeth y byd. Ni welwch adar drycin manaw yn ystod y dydd; maent yn dychweyd o’r m Môr gyda’r nos ac yn mynd yn ôl cyn y bore er mwyn osgoi’r gwylanod cefnddu. Mae hefyd tua 10,000 o barau o'r Pâl yn nythu ar Sgomer a Sgogwm rhwng Ebrill a Gorffennaf, a niferoedd sylweddol o nifer o rywogaethau eraill, gan gynnwys dolffiniaid, llamhidyddion, morloi llwydion, llursod, mulfrain, adar drycin y graig, hwyaid gwylltion, hwyaid llydanbig, hwyaid yr eithin, adar drycin, ieir ddŵr, pibyddion y mawn, pibyddion y coed, gylfinirod, piod y môr, tylluanod clystog, gwylanod coesddu, cogau, telorion y gors, tingochiaid du, creciau’r eithin, gwybedogion brith, llinosod pengoch, brain coesgoch a chwningod. Yn ogystal a glöynod byw, mae gwyfynnod sinabar a gwyfynnod byrned. Mae Clychau’r gog yn ystod y gwanwyn a Gludlys yn yr haf. Mae Clustog Fair yn gyffredin.[3]

Mae hefyd un mamal unigryw ar yr ynys, y llygoden bengron Sgomer (Clethrionomys glareolus skomerensis). Mae gwardeiniaid yno yn yr haf, ond nid oes poblogaeth barhaol wedi bod yno ers 1958. Gellir gweld olion hen dai a chylch cerrig ar yr ynys.

Mae canolfan ymwelwyr ar yr ynys, gyda llety i’r rhai sydd yn aros dros nos. Mae fferi’n dod o Martin’s Haven sawl gwaith bob dydd, heblaw am dydd Llun, os bydd y tywydd yn ei chaniatáu.[2]

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato