Ynys Southampton
Ynys yng ngogledd Canada yw Ynys Southampton. Gydag arwynebedd o 41,214 km², hi yw'r fwyaf o'r ynysoedd ym Mae Hudson. Mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 712, i gyd yn byw yn yr unig bentref, Coral Harbour (Salliq). Yn weinyddol, mae'r ynys yn rhan o diriogaeth Nunavut.
Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Coral Harbour |
Poblogaeth | 834 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Lleoliad | Bae Hudson |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 41,214 km² |
Gerllaw | Bae Hudson |
Cyfesurynnau | 64.5°N 84.5°W |
Hyd | 355 cilometr |
Ceir dwy warchodfa adar ar yr ynys.