Agor y brif ddewislen

Plasdy ger Bryn-crug, i'r gogledd-ddwyrain o dref Tywyn, ym Meirionnydd, de Gwynedd oedd Ynysymaengwyn, neu fel arfer Ynysmaengwyn. Saif ar yr ochr ddeheuol i Afon Dysynni. Am ganrifoedd bu'n ganolfan nawdd i'r beirdd. Mae'r plasdy a godwyd ar y safle yn 1758 bellach wedi ei ddymchwel a dim ond y colomendy sydd ar ôl.

Ynysymaengwyn
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.6006°N 4.07°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Y colomendy, Ynysymaengwyn

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Arferai fod yng nghwmwd Ystumanner yng nghantref Meirionnydd ac o'r Oesoedd Canol hyd at yr 20g dyma un o blasdai mwyaf (a mwyaf dylanwadol) yr ardal. Codwyd y plasdy gan Gruffydd ab Adda o Ddôl-goch ac Ynysymaengwyn,[3] uchelwr a drigai rhwng 1330 a 1334, ac sy'n gorwedd dan cofeb garreg yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn. Ef oedd beili cwmwd Ystumanner ac roedd ganddo ferch o'r enw Nest a briododd Llywelyn ap Cynwrig ab Osbwrn Wyddel. Bu eu disgynyddion yn gysylltiedig a'r plasdy am dros ddwy ganrif.

Canodd Siôn Cain (mab Rhys Cain) gywydd i ‘Syr Siams Prys marchog, o ynys y maengwyn’ yn 1633 (gweler Peniarth MS. 116) a cheir hefyd gywydd gan Richard Phylip (neu Rhisiart Phylip) ‘I Syr Siams Prys o ynis y maengwyn i ofyn kledde a dagar dros Sion Huwes o faes y pandy’.[3]

Ymwelodd llawer o feirdd â'r plasty, a gyda thai is-uchelwyr yr ardal - y rhan fwya'n perthyn i'r teulu hwn - Caethle, Dolau-gwyn, Gwyddgwion, Plas-yn-y-rofft (Esgairweddan), a Threfeddian. Un o'r disgynyddion oedd Hwmffre, mab Hywel Rheinallt, y canodd y bardd Tudur Aled gerdd iddo - un o gerddi mwya'r cyfnod iddo.[4]

Y Corbet a'r CorbettGolygu

 
Gwesty'r Corbet, Tywyn, ble mae cyfenw'r hen deulu'n parhau hyd heddiw.

Aer Elizabeth a Syr James Pryse, disgynyddion Gruffydd ab Adda oedd eu merch Bridget a briododd ddwywaith: yn gyntaf gyda Robert Corbet (un 't'; trydydd mab Syr Vincent Corbet, Moreton Corbet, Sir Amwythig) ac yn ail gyda Syr Walter Lloyd, Llanfair Clydogau, Sir Aberteifi. Mab Bridget a Robert Corbet oedd Vincent Corbet a fu farw yn 1723, Siryf Meirionnydd yn 1682. Priododd Ann (merch William Vaughan, Corsygedol) a gadawodd bedair merch yn gyd-aeresau: Ann, a briododd Athelstan Owen, Rhiwsaeson, Sir Drefaldwyn — trwyddynt hwy y parhaodd llinach Ynysmaengwyn, Jane, Elizabeth a Rachel. Ni bu i Corbet Owen a Richard Owen, meibion Ann ac Athelstan Owen, etifeddion, ond parhaoedd eu llinach drwy eu chwaer Ann Owen a fu farw yn 1767 a'i gŵr, Pryse Maurice (1699 - 1799), Lloran Ucha, ac a fabwysiadodd y cyfenw 'Corbet'.

Prynwyd stad Ynysmaengwyn yn 1874 gan John Corbett (dwy 't'), o Impney ger Droitwich Spa, yng ngogledd Swydd Gaerwrangon, a fu'n aelod seneddol dros Droitwich. Nid oedd, fodd bynnag, unrhyw berthynas rhwng y Corbett hwn a'r lleill.

EsgeulustodGolygu

Yn dilyn marwolaeth y perchennog Mary (chwaer Roger John Corbett (1863–1942) yn 1951, rhoddwyd yr hen blasdy'n anrheg i'r Cyngor Sir. Esgeuluswyd yr adeilad ganddynt ac aeth a'i ben iddo. Fe'i defnyddiwyd gan y Frigad Dân am rai blynyddoedd i ymarfer eu crefft. Bellach, nid oes dim i'w weld yno ond y colomendy a pharc yn llawn o garafanau.

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. 3.0 3.1 Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 7 Gorffennaf
  4. Williams, Gruffydd Aled. 2001. The literary tradition to c. 1560. Yn: J. Beverley Smith & Llinos Beverley Smith (gol). History of Merioneth, vol. ii: The Middle Ages, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-1709-X, t. 617. Gweler hefyd: Williams, Gruffydd Aled. 2007. Tudur Aled ai cant yn dda om barn i: Cywydd Cymod Wmffre ap Hywel ap Siancyn o Ynysymaengwyn a'i Geraint. Llên Cymru, 30, tt.57-99.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato