Cadwyn o ynysoedd yng ngorllewin yr Ynysoedd Cyferwyntol yw Ynysoedd y Wyryf.[1] Maent yn cynnwys tua 90 o ynysoedd bychain (ynysigau), caiau a chreigiau a leolir 64–80 km o ddwyrain Puerto Rico ac yn ymestyn am tua 95 km tuag at Dramwyfa Anegada sy'n cysylltu Môr y Caribî a gweddill Cefnfor yr Iwerydd.[2] Maent ar gwr gogleddol yr Antilles Lleiaf, i'r gorllewin o Anguilla, Sant Marthin ac Ynysoedd Cyferwyntol eraill. Mae Tramwyfa'r Wyryf yn gwahanu Ynysoedd y Wyryf rhag grŵp o ynysoedd ger arfordir Puerto Rico a elwir yn Ynysoedd Sbaenaidd y Wyryf.

Ynysoedd y Wyryf
Mathynysfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Leeward Edit this on Wikidata
Arwynebedd650 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Caribî Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau18.2°N 64.8°W Edit this on Wikidata
Map

Rhennir yr ynysoedd yn Ynysoedd Americanaidd y Wyryf yn y gorllewin, ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf yn y dwyrain. Un o ardaloedd ynysol yr Unol Daleithiau a weinyddir gan yr Adran Gartref yw Ynysoedd Americanaidd y Wyryf. Maent yn cynnwys y tair ynys fawr St. Croix, St. John, a St. Thomas, ynghyd â rhyw 50 ynysig a chaiau bychain a chanddynt gyfanswm arwynebedd o 345 km2. Tiriogaeth dramor Brydeinig yw Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, sy'n cynnwys y bedair ynys fawr Tortola, Anegada, Virgin Gorda, a Jost Van Dyke, a 32 o ynysoedd ac ynysigau bychain (mwy nag 20 ohonynt heb drigolion), a chanddynt cyfanswm arwynebedd o 153 km2.

Map o Ynysoedd y Wyryf

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [virgin: the Virgin Islands].
  2. (Saesneg) Virgin Islands. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2015.