Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Yr Alban (Saesneg: Scottish national football team) yn cynrychioli Yr Alban yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban (Saesneg: Scottish Football Association) (SFA), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r SFA yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).

Yr Alban
Shirt badge/Association crest
Conffederasiwn UEFA (Ewrop)
Hyfforddwr Gordon Strachan
Is-hyfforddwr Mark McGhee
Stuart McCall
Mwyaf o Gapiau Kenny Dalglish (102)
Prif sgoriwr Kenny Dalglish (30)
Denis Law (30)
Cod FIFA SCO
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
Baner Yr Alban Yr Alban 0–0 Lloegr Lloegr
(Partick, Yr Alban; 30 Tachwedd 1872)
Y fuddugoliaeth fwyaf
Baner Yr Alban Yr Alban 11–0 Iwerddon
(Glasgow, Yr Alban; 23 Chwefror 1901)
Colled fwyaf
Baner Wrwgwái Wrwgwái 7–0 Yr Alban Baner Yr Alban
(Basel, Y Swistir; 19 Mehefin 1954)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau 8 (Cyntaf yn 1954)
Pencampwriaeth UEFA Ewrop
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 1992)
Canlyniad gorau 8 olaf, 1992

Yr Alban a Lloegr ydi'r ddau dîm hynnaf yn y byd, gyda'r ddwy wlad yn cwrdd yn y gêm bêl-droed rhyngwladol gyntaf ym 1872[1]. Mae'r Alban wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar wyth achlysur ac ym Mhencampwriaethau Ewrop ddwywaith.

Kenny Dalglish sydd â'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau dros Yr Alban ar ôl chwarae 102 o weithiau rhwng 1971 a 1986[2]. Sgoriodd Dalglish 30 o goliau dros ei wlad ac mae'n rhannu'r record fel prif sgoriwr Yr Alban gyda Denis Law[2].

Yr Alban a Lloegr yw'r timau cenedlaethol hynnaf yn y byd gyda'r ddwy wlad yn wynebu ei gilydd mewn gêm ddi-sgôr yn Partick, Yr Alban ar 30 Tachwedd 1872[3]. Roedd yr unarddeg chwaraewr gynrychiolodd Yr Alban yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn chwarae i glwb amatur Queen's Park o Glasgow[3]. Dros y blynyddoedd nesaf chwaraewyd gemau yn erbyn Cymru - y cyntaf ym 1876[4] ac Iwerddon - y cyntaf ym 1884[5] fel rhan o Bencampwriaeth Prydain.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "A sporting nation". BBC Scotland.
  2. 2.0 2.1 "International Roll of Honour". Scottish Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-13. Cyrchwyd 2015-07-21.
  3. 3.0 3.1 "The first international football match". BBC Scotland. BBC.
  4. "The Story of Welsh football". Wrexham.gov.uk.
  5. "North. Ireland national football team v all opponents in all times". eu-football.info.

Dolenni allanol

golygu