Yr Aran
Mae'r Aran yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd yr Wyddfa yn Eryri.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa a'i chriw |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 747 metr |
Cyfesurynnau | 53.0425°N 4.0837°W |
Cod OS | SH6044051531 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 235 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Saif ar y grib i'r de o gopa'r Wyddfa ei hun. Mae'r grib yma yn arwain tua'r de dros Fwlch Main, ar hyd Allt Maenderyn a thros Fwlch Cwm Llan i gopa yr Aran, gyda Cwm Llan ei hun rhwng y grib yma a'r Lliwedd.
Er nad oes llwybr cyhoeddus wedi ei nodi ar y map, gellir ei ddringo yn weddol hawdd o Lwybr Rhyd Ddu neu Lwybr Watkin i gopa'r Wyddfa. Gyda gofal, gellir dringo crib Allt Maenderyn oddi yma i gyrraedd copa'r Wyddfa.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 747.3 metr (2452 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 3 Gorffennaf 2009.