Ymddiriedolaeth Gymreig

Cronfa addysgol a sefydlwyd yn 1674 gyda'r bwriad gwreiddiol o greu ysgolion elfennol yng Nghymru i blant y werin gael dysgu darllen Saesneg oedd Yr Ymddiriedolaeth Gymreig (Saesneg: The Welsh Trust).

Ymddiriedolaeth Gymreig

Cafodd ei sefydlu gan Anghydffurfiwr o Sais, Thomas Gouge (1635?-1681). Buan y sylweddolwyd fodd bynnag fod rhaid dysgu i'r plant sut i ddarllen Saesneg trwy gyfrwng y Gymraeg gan fod trwch y werin bobl yn Gymry uniaith. Ymunodd Cymry fel Stephen Hughes a'r llenor Charles Edwards yn y gwaith ac aethpwyd ati i ddarparu a chyhoeddi sawl llyfr defosiynol a diwinyddol Cymraeg rhad. Yn 1677 cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth argraffiad newydd o'r Beibl yn Gymraeg hefyd.

Pan fu farw Gouge yn 1681 roedd gan yr Ymddiriedolaeth tua 300 o ysgolion yn cael eu cynnal mewn pob math o adeiladau. Ond collwyd nawdd gyda marwolaeth Gouge a chaeodd yr ysgolion hyn i gyd yn fuan wedyn. Parhaodd y gwaith o gyhoeddi llyfrau Cristnogol yn y Gymraeg am gyfnod er hynny a bu hynny yn fodd i ledaenu llythrenedd ymysg y werin bobl.

Gellir ystyried yr Ymddiriedolaeth yn rhagflaenydd Ymneilltuol i'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.