Ysbyty Sili
cyn ysbyty rhestredig Gradd II* yn Sili a Larnog
Hen ysbyty ym mhentref Sili, Bro Morgannwg, Cymru, yw Ysbyty Sili. Fe'i caewyd fel Ysbyty yn 2001 ac mae'r adeilad bellach wedi'i droi'n fflatiau moethus dan yr enw Hayes Point. Mae'r adeilad yn nodedig fel un o engrheifftiau gorau o bensaernïaeth art deco yng Nghymru.
Math | adeilad ysbyty, cyn ysbyty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Sili a Larnog |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 12 metr |
Cyfesurynnau | 51.4002°N 3.23675°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Adeiladwyd yr Ysbyty yn wreiddiol rhwng 1932-36 fel ysbyty ar gyfer trin y diciâu. Fodd bynnag, cafodd ei ddefnyddio ar gyfer trin ystod o glefydau eraill. Rhestrwyd yr adeilad yn 1990.[1]