Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch
Ysgol a leolir ym mhentref Penrhyn-coch, Ceredigion, yw Ysgol Gynradd Gymunedol Penrhyn-coch. Mae'n ysgol gynradd gymunedol, yng nghategori A yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysgol lleol, felly Cymraeg yw iaith yr ysgol.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd |
---|---|
Rhanbarth | Ceredigion, Cymru |
Ysgol Gynradd sirol, cyd addysgol dyddiol yw hi, wedi ei gosod yng nghategori A polisi iaith yr Awdurdod Addysgol Lleol. Darperir addysg ynddi ar gyfer y Cymry a'r Di-Gymraeg gyda'r nôd o ddwyieithrwydd i bob disgybl erbyn iddynt gyrraedd blwyddyn 6. Daw'r ysgol o fewn dalgylch Ysgolion Gyfun Penweddig a Phenglais, Aberystwyth.
Sefydlwyd yn wreiddiol fel Ysgol Genedlaethol ynghanol y pentref ym 1863. Adeiladwyd ysgol newydd gerllaw a agorwyd ym 1969. Roedd dwy ystafell ddosbarth, neuadd, cegin a dau ddosbarth symudol ar ffurf cabanau. Adnewyddwyd yr ysgol yn 2005 gydag estyniad yn cynnwys pedwar ystafell ddosbarth, neuadd, cegin, a blociau toiledau.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ O gwmpas yr Ysgol. Ysgol Gymunedol Penrhyn-coch. Adalwyd ar 28 Gorffennaf 2011.