Ysgol Gynradd Mornant
Ysgol gynradd Gymraeg ym Mhicton ger Treffynnon, Sir y Fflint yw Ysgol Gynradd Mornant, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Sefydlwyd yr ysgol ym mis Mai 1953 dan yr enw Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw, symudwyd hi i’r adeilad presennol ym 1972 ac adeiladwyd estyniad ym mis Tachwedd 2000.[1][2] Bu Rhys Jones yn brifathro'r ysgol yn fuan wedi ei sefydlu.[3]
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd, ysgol |
---|---|
Rhanbarth | Cymru |
Daw mwyafrif y disgyblion o’r pentrefi cyfagos, megis Penyffordd, Gwespyr, Ffynnongroyw a Threlogan ond daw rhai o Brestatyn, Treffynnon a Llanelwy.[1] Roedd 106 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2002,[1] a 79 yn 2008.[2] Daw'r rhan fwyaf o'r disgyblion o gartrefi ble mae'r Saesneg yn brif iaith, ond siaradai tua 57% o'r plant y Gymraeg i safon iaith gyntaf.[2]
Enillodd yr ysgol wobr "Yellow Woods" ym mis Mawrth 2008, am eu rhan yn ailgylchu hen gyfeiriaduron ffôn, gan dderbyn clod arbennig am eu ymdrechion.[4]
Arwyddair yr ysgol yw Dwy iaith - dwy waith y dewis.[1]
Mae'r ysgol yn nalgylch Ysgol Maes Garmon.
Mae'r gantores a'r awdures Caryl Parry Jones yn un o gyn-ddisgyblion yr ysgol.[5]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Adroddiad Arolygiad 9–12 Rhagfyr 2002. Estyn (15 Chwefror 2002).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Adroddiad Arolygiad 23 Medi 2008. Estyn (15 Chwefror 2002).
- ↑ Y Glannau: Derwen lle bu'r fesen fach. BBC Lleol: Gogledd Ddwyrain (Tachwedd 2003). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
- ↑ School scoops recycling awards (31 Mawrth 2008).
- ↑ Proffil: Caryl Parry Jones Cantores a Bardd. Plant Ar-lein.