Ysgol Maes y Gwendraeth
Ysgol gyfun ddwyieithog ym mhentref Cefneithin, Sir Gaerfyrddin, yw Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae'n ysgol uwchradd ddwyieithog ar gyfer disgyblion rhwng 11 a 18 oed. Fe'i hagorwyd yn 2013 ar ôl uno Ysgol Maes yr Yrfa ac Ysgol y Gwendraeth. Yn 2017, roedd 841 o ddisgyblion wedi eu cofrestru yno, gyda 157 o ddisgyblion yn y chweched ddosbarth.
Arwyddair | Cyfoeth Bywyd Addysg |
---|---|
Sefydlwyd | 2013 |
Math | Ysgol Gyfun |
Mr Wyn Evans | |
Lleoliad |
24 Heol Y Parc Cefneithin Sir Gaerfyrddin SA14 7DT Cymru |
Awdurdod lleol | Cyngor Sir Gâr |
Rhyw | Merched a Bechgyn |
Ystod oedran | 11–19 |
Gwefan | maesygwendraeth.org |
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol o ddydd i ddydd, a hi yw'r iaith a ddefnyddir ar gyfer gwneud y gwaith gweinyddol a chymdeithasu hefyd.[1] Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan yr ysgol Gategori 2A o ran statws ieithyddol. Ystyr hyn yw bod o leiaf 80% o'r pynciau (heblaw am Saesneg a Chymraeg) yn cael eu dysgu i bob disgybl drwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, caiff un neu ddau o bynciau eu dysgu i rai ddisgyblion drwy gyfrwng y Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Mae'r ysgol yn nodi bod pob pwnc yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac eithrio Saesneg a Gwyddoniaeth (sy'n cael eu dysgu yn iaith ddewisol y disgybl o flwyddyn 8 ymlaen).
Mae'r ysgol yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn flynyddol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "School Prospectus 2018-2019" (PDF). Ysgol Maes Y Gwendraeth website. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-03-13. Cyrchwyd 12 March 2018.