Ysgol gynradd yn Nhregarth ger Bethesda, Gwynedd ydy Ysgol Tregarth, sydd rhyw bum milltir i’r de-ddwyrain o ddinas Bangor. Mae'n ysgol Gymraeg wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru o dan reolaeth, ar gyfer plant 3-11 oed. Mae yn nhalgylch Ysgol Dyffryn Ogwen.

Ysgol Tregarth
Enghraifft o'r canlynolysgol Gymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadBangor Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata

Sefydlwyd yr ysgol ym 1897, a cyhoeddodd yr ysgol lyfryn i ddathlu eu canmlwythiant ym 1997.[1] Daw tua 50% o'r plant o gartrefi lle mae Cymraeg yn brif iaith. Trefnir y disgyblion i bum dosbarth. Mae’r ysgol erbyn hyn wedi clystyru gydag Ysgol Bodfeurig ac mae gan y brifathrawes gyfrifoldeb rheoli dros y ddwy.

Roedd 125 o blant ar gofrestr yr ysgol yn 2007; mae hyn yn gynnyd o 30% ers yr adolygaid ddiwethaf yn 2001. Roedd pymtheg y cant o’r disgyblion yn derbyn cinio am ddim.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (1997) Ysgol Tregarth 1897-1997: cerrig milltir yn hanes yr ysgol: milestones in the school's history. Ysgol Tregarth. AISN B001AHROX8
  2.  Adroddiad Adolygiad ESTYN 2007. ESTYN (22 Hydref 2013).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.