Ysgol y Ferch o'r Sger

Ysgol gynradd Gymraeg yng Nghorneli, bwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yw Ysgol y Ferch o'r Sger, ar gyfer plant 3 i 11 oed. Enwir yr ysgol ar ôl Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) (c. 1747–1776), gwrthrych y gân adnabyddus Y Ferch o'r Sger.

Roedd 199 o blant yn yr ysgol yn 2005, gan gynnwys 35 o blant meithrin, roedd hyn yn gynnydd o 7% ers 2001. Daw 98% o'r plant o gartrefi lle mae'r Saesneg yn brif iaith ond mae pob disgybl dros 5 oed yn rhugl yn y Gymraeg.[1]

Arwyddair yr ysgol yw Nid da lle gellir gwell.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Adroddiad Arolygiad 28 Tachwedd 2005. Estyn (30 Ionawr 2006).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.