Zabrinski
Band cerddoriaeth trydanol Gymreig o Gaerfyrddin oedd Zabrinski. Roedd y band, a ymddangosodd yn gyntaf yn 2000, yn cyfuno seicadelia a cherddoriaeth electronig.[1] Enillodd Executive Decision y wobr am sengl y flwyddyn yng nghylchgrawn enwog Record Collector yn 2003.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Label recordio | Ankst |
Dod i'r brig | 2007 |
Genre | seicadelia newydd |
Cafodd y band ei enwi oherwydd camsillafiad ffilm o 1970, sef Zabriskie Point.
Eu halbwm cyntaf oedd Screen Memories, a hawliodd sylw'r beirniaid yn syth. Mae'r record yn gyfuniad o bop seicadelig law yn llaw ag elfennau o'r llawr ddawns a'r byd electro-arbrofol.
Roedd Zabrinksi yn rhan o genhedlaeth newydd a ysbrydolwyd gan grwpiau fel Super Furry Animals, Gorky's Zygotic Mynci a Topper. Ymhlith eu halbyms mwya poblogaidd y mae: Yeti (2001), Koala Ko-ordination (2002) a Ill Gotten Game (2005) ac fe'u disgrifiwyd gan y BBC fel albymau 'llawn dyfeisgarwch, melodi a chynhyrchu beiddgar'. Dros y blynyddoedd, cymharwyd y grŵp i grwpiau ac unigolion fel Flaming Lips, Aphex Twin, Primal Scream a'r Beach Boys.[angen ffynhonnell]
Er iddynt deithio drwy wledydd Prydain gyda'r Super Furry Animals a recordio sesiynau ar gyfer Huw Stephens a John Peel ar Radio 1, daeth y grŵp i ben yn 2007.
Aelodaeth
golyguYr aelodau a sefydlodd y grwp yn wreiddiol oedd Mathew Durbridge, llais a guitar; Gareth Burger Richardson, gitar ac Iwan Morgan: samplyrs byw, recordio a chynhyrchu. Cychwynwyd y grwp tra roeddent yn yr ysgol. Gadawodd Iwan yn ddiweddarach ac ymunodd Kris Jenkins ar yr allweddelau ac offerynnau taro. Cyn hir ymunodd Rhun Lenny, Gitar Fâs; Owain Jones, drymiau a Pwyll ap Stifyn, recordio a chynhyrchu.
Disgograffi
golyguAlbymau
golygu- Screen Memories, Rhagfyr 2000, (Microgram - label eu hunain)
- Yeti, Tachwedd 2001, (Ankstmusik)
- Koala Ko-ordination, 25 Medi 2002
- Ill Gotten Game, 16 Mehefin 2005
Senglau/EP
golygu- Freedom Of The Hiway/Rattlesnake On Ice, Mawrth 2001, (Boobytrap)
- Executive Decision, 16 Mehefin 2003
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.bbc.co.uk; adalwyd 11 Hydref 2016.
Dolenni allanol
golygu- [1] Zabrinski ar wefan y BBC
- [2] Archifwyd 2007-09-26 yn y Peiriant Wayback Cyfweliad 'Drowned in Sound'