Zaghouan
Mae Zaghouan yn ddinas fechan yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia, tua 60 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis, ac yn ganolfan weinyddol gouvernorat Zaghouan. Mae ganddi boblogaeth o tua 10,000 (2001).
Math | municipality of Tunisia, Imada |
---|---|
Poblogaeth | 20,387 |
Cylchfa amser | UTC−01:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Zaghouan, delegation of Zaghouan |
Gwlad | Tiwnisia |
Uwch y môr | 201 metr |
Cyfesurynnau | 36.4028°N 10.1433°E |
Cod post | 1100 |
Mae Zaghouan yn gorwedd ar lethrau gwyrdd a choediog Jebel Zaghouan (1295m). Oddi yno clydid dŵr mewn pont dŵr (aqueduct) i hen ddinas Carthago, 70 km i ffwrdd; gellir gweld rhannau ohoni o hyd tua 20 km i'r de o Diwnis. Defnyddir y ffynhonau a fwydai'r pont dŵr o hyd gan y trigolion lleol.
Yng nghanol y dref ceir y Temple des Eaux (Teml y Dyfroedd: gweler y llun) sy'n dyddio o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.
Ar gyrion y dref mae Zaouia Sidi Ali Azzouz. Codwyd y zaouia gan ffoaduriaid o Andalucía er anrhydedd Sidi Ali Azzouz, sant o Foroco a sefydlodd dref Zaghouan, yn ôl y traddodiad.