Roedd ABC Datblygu yn bennod arbennig o'r gyfres gerddoriaeth Fideo 9, oedd yn edrych ar gerddoriaeth y band Datblygu yn y 1990au.[1] Cyfarwyddwyd y rhaglen gan y cyfarwyddwr ffilm Marc Evans.[angen ffynhonnell]

ABC Datblygu
Enghraifft o'r canlynolrhaglen deledu Edit this on Wikidata

Ffilmiwyd y fideos a'r cyfweliadau gan mwyaf mewn hen ffatri wag ar Ffordd Penarth yng Nghaerdydd. Ceir cyfweliadau gyda David R. Edwards o Aberteifi, prif leisydd a chyfansoddwr y grwp. Mae llawer o'r gwaith ffilm yn tynnu ar neu'n ceisio ffug-efelechu gwaith ffilm yr arlunydd Americanaidd, Andy Warhol.

Ymysg y fideos yn y rhaglen mae un o gân 'Ugain i Un' sydd yn cyffelybu anlwc a di-bwrpasedd bywyd i geffyl rasio sy'n cael ei saethu mewn ras.

Cyfeiriadau golygu