Abdylas Maldybayev

cyfansoddwr a aned yn 1906

Cyfansoddwr a chanwr Cirgisaidd oedd Abdylas Maldybayev (7 Gorffennaf 19061 Mehefin 1978) a oedd yn ffigur poblogaidd ym myd opera yr Undeb Sofietaidd.

Abdylas Maldybayev
Abdylas Maldybayev ar bapur arian 1 som.
Ganwyd24 Mehefin 1906 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kara-Bulak Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mehefin 1978 Edit this on Wikidata
Bishkek Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Moscaw Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, cyfansoddwr, actor, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Urdd y Chwyldro Hydref, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Artist y Bobl (CCCP), Urdd Baner Coch y Llafur, Medal "Am Waith Rhagorol", Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945" Edit this on Wikidata

Ganed ym mhentref Kara Bulak yn rhanbarth Chui, yng ngogledd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia. Dechreuodd gyfansoddi cerddoriaeth yn 16 oed, a chafodd lwyddiannau yn y 1920au gyda'i ganeuon"Akynai" a "Life". Yn y 1930au fe gyflwynodd arddulliau a ffurfiau cerddorol newydd i Girgisia, megis emynau ac ymdeithganeuon. Gwobrwywyd iddo deitlau anrhydeddus Arlunydd y Bobl GSS Cirgisia yn 1937 ac Artist y Bobl UGSS yn 1939. Gweithiodd yn gadeirydd Undeb Cyfansoddwyr Cirgisia o 1939 i 1967 ac yn gyfarwyddwr coleg cerdd yn Bishkek o 1953 i 1954. Yn ogystal â'i ganeuon fe gyfansoddai sawl gwaith offerynnol, gan gynnwys symffoni. Bu farw yn 71 oed. Enwir theatr yn Bishkek ar ei ôl.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 180–81.