Abel Christmas Davies

chwarewr rygbi'r undeb, meddyg

Roedd Abel Christmas Davies (25 Rhagfyr 186118 Mehefin 1914) yn feddyg a chwaraewr rygbi'r undeb a fu'n chware i Gymry Llundain, Llanelli a Chymru.

Abel Christmas Davies
Ganwyd1861 Edit this on Wikidata
Llandysul Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1914 Edit this on Wikidata
Tre-gŵyr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, meddyg Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Llanelli Edit this on Wikidata
SafleAsgellwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Davies yn Llandysul, Ceredigion yn blentyn i Thomas Crimea Davies, gwerthwr botymau a Mary (née Davies) ei wraig.[1]. Cafodd ei addysgu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol De Cymru, Caerdydd a Choleg Prifysgol Llundain lle graddiodd MB ym 1884.[2]

Gyrfa golygu

Dechreuodd Davies i chware rygbi tra yn fyfyriwr yn Aberystwyth gan wasanaethu fel capten tîm y coleg.[3] Wedi symud i Brifysgol Llundain daeth yn chwaraewr i dîm Cymru Llundain. Roedd yn rhan o dîm Cymry Llundain bu'n wynebu'r New Zealand Natives oedd ar daith ym mis Chwefror 1889. Er i Gymry Llundain golli o ddau gais i un sgoriodd Davies y cais yn erbyn y Maorïaid. Wrth chwarae i Gymry Llundain dewiswyd Davies i gynrychioli Cymru fel rhan o Bencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1889. Chwaraeodd yn erbyn yr Iwerddon ar faes Sant Helen, Abertawe. Collodd Cymru o ddau gais i ddim, yn y gêm gyntaf i'r Iwerddon drechu Cymru gartref.[4] Dyma oedd ei unig ymddangosiad rhyngwladol.

Wedi cymhwyso fel meddyg aeth Davies i gynorthwyo Dr Evans, Llanelli yn ei bractis meddyg teulu ym 1890 a dechreuodd chware rygbi i dîm Llanelli, gan wasanaethu fel capten y tîm ym 1891. Ym 1893 symudodd i Dre-gŵyr i agor ei bractis meddygol ei hun gan aros yno hyd ei farwolaeth.

Ym 1894 etholwyd Davies yn gynghorydd ar ran y Blaid Geidwadol ar Gyngor Plwyf Tre-gŵyr.[5]

Teulu golygu

Ym 1893 priododd Davies â Mary Catherine Williams, merch Henry Williams Albion House, Llanelli.[6] Bu iddynt bedwar mab a dwy ferch.

Marwolaeth golygu

Bu farw o waedlif yr ymennydd yn Nhre-gŵyr [7] yn 49 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Y Bocs Llanelli.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1871, Llandysul, RG10/5547; Ffolio: 78; Tudalen: 8
  2. "LLANDYSSUL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1884-08-08. Cyrchwyd 2020-04-14.
  3. "University Football - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1882-10-27. Cyrchwyd 2020-04-14.
  4. "The International Match at Swansea - South Wales Echo". Jones & Son. 1889-03-04. Cyrchwyd 2020-04-14.
  5. "FURTHER RETURNS OF THE ELECTIONSI - The Western Mail". Abel Nadin. 1894-12-19. Cyrchwyd 2020-04-14.
  6. "MARRIAGE AT LLANELLY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1893-01-25. Cyrchwyd 2020-04-14.
  7. "GOWERTON DOCTOR'S DEATH - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1914-06-18. Cyrchwyd 2020-04-14.
  8. "THE LATE DR A C DAVIES - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder". [s.n.] 1914-06-27. Cyrchwyd 2020-04-14.