Seiclwr proffesiynol Seisnig oedd Adrian Timmis (ganwyd 20 Mehefin 1964, Sheffield, De Swydd Efrog).

Adrian Timmis
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnAdrian Timmis
Dyddiad geni (1964-06-20) 20 Mehefin 1964 (59 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
1986-1987
1988
1989
1990
1991
1992
1993
1994
ANC Halfords
Z-Peugeot
Raleigh-Banana
Individueel
British Eagle
Raleigh-Saab
Raleigh-Dyna Tech
Raleigh
Prif gampau
Baner Prydain Fawr Pencampwr Cenedlaethol
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Hydref 2007

Reidiodd ei ras cyntaf tra'n 13 oed yn 1977. Yn 1981, daeth yn Bencampwr Iau Pursuit Prydain. Cynyrchiolodd Brydain yn tîm pursuit Gemau Olympaidd 1984 yn Los Angeles. Roedd Timmis yn reidiwr proffesiynol rhwng 1986 a 1995. Reidiodd y Tour de France yn 1987, cystadlodd yn rasus rhyngwladol Paris-Nice, Criterium International, Tour de Romandy, Liege Bastonge Liege, Fleche Wallone, Amstel Gold a'r Het Volk.

Tuag at diwedd ei yrfa broffesiynol ar y ffordd, dechreuodd Timmis feicio mynydd yn 1989, gan fynd ymlaen i reidio dros dîm Raleigh.

Erbyn hyn mae'n hyfforddwr, tylinwr corff, peirianydd beic. Bu'n gweithio fel tylinwr corff ar gyfer tîm Linda McCartney Foods a tîm Cenedlaethol Prydain ym Mhencampwriaethau'r BYd, Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.

Canlyniadau golygu

Ffordd golygu

1985
1af Cymal olaf Milk Race
1af Tour of Lancashire
1af Tour of Mereyside
1986
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Proffesiynol Ras Ffordd Prydain
4ydd Nissan Classic, Iwerddon
7fed GP Isbergues, Ffrainc
1987
70fed Tour de France
8fed Midi Libre
1af Cymal 4, Midi Libre
2il Cymal 6a, Midi Libre
1988
1af Tour of Delyn
1995
1af Sky TV Crit Rochester

Trac golygu

Beicio Mynydd golygu

1992
3ydd Cyfres Pwyntiau Cenedlaethol Prydain
1994
3ydd Pencampwriaethau Dringo Allt Prydain
1995
2il Cyfres Pwyntiau Cenedlaethol Prydain
1af Cymal Nannerch, Cyfres Pwyntiau Cenedlaethol Prydain
1af Cymal Castle Combe, Cyfres Pwyntiau Cenedlaethol Prydain

Cyclo-cross golygu

2004
1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Cyclo Cross Prydain (Veteran)
2004/2005
4ydd Cyfres Pwyntiau Cenedlaethol Prydain

Cyfeiriadau golygu