Hen ddinas yng Nghanaan oedd Adulam a saif rhyw 36 kilometre (22 mi) i dde-orllewin Jeriwsalem, yn debyg ar fryn Tel ʿAdullam, neu H̱orbat ʿAdullam (Arabeg: Tall Ash-Shaykh Madhkūr‎).[1]

Adulam
Delwedd:Hill of Adullam, Covered in Pines.jpg, Millstone in Adullam.jpg
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNahal Hevron Edit this on Wikidata
GwladIsrael Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.6547°N 35.0031°E Edit this on Wikidata
Map

Sonir am Abdulam gyntaf yn Llyfr Genesis 38, yn lleoliad i weithgareddau Jwda, mab Jacob. Yn sgil ymadawiad yr Iddewon o'r Aifft a'r goncwest dros Dir Israel, dosrennid Adulam i lwyth Juda, yn ôl Llyfr Josua 15:35. Fe'i gelwid "Gogoniant Israel" yn Llyfr Micha 1:15. Yn ôl Llyfr Cyntaf Samuel 22:1–4, yma y bu Dafydd a'i ddilynwyr mewn ogof wedi iddynt ffoi o'r Brenin Saul. Wedi cwymp y deyrnas Iddewig unedig yn y 10g CC, codwyd amddiffynfeydd Adulam gan Rehoboam, brenin cyntaf Jwda, a gorchfygwyd Abdulam a chaerau eraill Jwda gan y Pharo Sheshonk I (Shishak). Ailfeddiannwyd Adulam gan yr Iddewon wedi'r Gaethglud yn y 6g CC. Cipiwyd y ddinas oddi ar y cadfridog Gorgias gan Judas Maccabeus yn ystod y gwrthryfel Hasmoneaidd yn yr 2g CC (2 Maccabees 12:38).

Yn yr oes fodern, rhoddir yr enw ʿAdullam gan Wladwriaeth Israel ar ranbarth datblygu a saif yn yr ardal a elwir coridor Jeriwsalem, i orllewin y brifddinas hawliedig, yng nghanolbarth y wlad. Mae'r rhanbarth bryniog hwn yn cynnwys olion y ddinas hynafol rhwng iseldiroedd y Shfela a Mynyddoedd Jwdea. Dechreuwyd gwladychu'r rhanbarth yn 1958 drwy sefydlu sawl pentref amaethyddol. Ni chodwyd canolfan ranbarthol oherwydd bod yr ardal mor agos i Jeriwsalem, ond lleolir y pentrefi o amgylch tair is-ganolfan wledig. Tyfir perllannau yng ngogledd-ddwyrain ʿAdullam a chnydau yn ne-orllewin yr ardal. Mae ambell bentref hefyd yn cynhyrchu gwneuthurion bychain.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) ʿAdullam. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Ionawr 2020.