Afon Carrog

afon yn Arfon, Gwynedd

Afon yn ardal Arfon, Gwynedd, yw Afon Carrog. Mae'n llifo o'r bryniau ger Rhostryfan i'w haber ar Fae'r Foryd ger Llanwnda. Ei hyd yw tua 4 milltir.

Afon Carrog
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawBae'r Foryd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.091043°N 4.296642°W Edit this on Wikidata
Map

Cwrs golygu

Mae tarddle Afon Carrog yn y bryniau isel i'r de o bentref Rhostryfan gerllaw Plas Tryfan. Oddi yno mae'n llifo i lawr i gyfeiriad y gorllewin drwy gaeau gan fynd dan bont ar yr A487 yn y Dolydd, lle mae'n uno ag Afon Wyled, ac un arall yn is i lawr ar yr A499, a elwir yn gyfeiliornus yn Bont Wyled). Ger Llanwnda mae'n llifo heibio i hen amddiffynfa Dinas y Pryf.[1] Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae hi'n ffurfio'r ffîn rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda.

 
Aber Afon Carrog
 
Afon Carrog ger Llanwnda

Mae'n gwneud tro bedol wedyn i lifo i gyfeiriad y gogledd am weddill ei thaith. Saif ei haber ar lan traeth lleidiog eang Bae'r Foryd, tua milltir i'r gogledd o bentref Llandwrog, yn agos i aberoedd Afon Foryd ac Afon Gwyrfai.

Cyfeiriadau golygu

  1. Map OS Landranger 1:50,000 Taflen 123.