Crefft ymladd o Japan yw aicido.[1] Ystyr yr enw yn Japaneg yw "modd o gysoni egni". Mae'n debyg i jujitsu a jiwdo gan ei fod yn defnyddio technegau troelli a thaflu mewn ymgais i droi cryfder yr ymosodwr yn erbyn ei hunan. Datblygwyd y sgiliau sylfaenol yn Japan tua'r 14g. Cafodd y technegau eu cyfundrefnu yn nechrau'r 20g drwy waith Ueshiba Morihei. System hunanamddiffyn yw aicido, a does ganddi yr un symudiad ymosodol. Yn ddiweddarach, datblygwyd ffurf gystadleuol o'r enw aicido Tomiki gan un o ddisgyblion Ueshiba, Tomiki Kenji. Yn yr arddull hon, defnyddir cyllell rwber neu bren gan un cystadleuydd i gyffwrdd ei wrthwynebydd, yr hwnnw sy'n ceisio osgoi a diarfogi'r ymosodwr.[2]

Arddangosiad aicido: y tafliad shihōnage

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [aikido].
  2. (Saesneg) aikido. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mehefin 2017.