Band synthpop Cymreig oedd Ail Gyfnod. Ffurfiwyd y grŵp ar ddiwedd yr 1980au gan y brodyr Gwion a Dyfan Jones. Ffilmiwyd nifer o'i caneuon ar gyfer rhaglenni cerddoriaeth S4C, Fideo 9 a Y Bocs.

Ail Gyfnod
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Chwaraeodd y grŵp ei gig cyntaf yng Nghlwb y Bont, Pontypridd.[1]

Fe aeth Gwion ymlaen i fyd actio ac mae wedi gwneud llawer o waith theatr a theledu yn cynnwys Rownd a Rownd, Iechyd Da a Arachnid. Ers 1995 mae Dyfan wedi bod yn gyfansoddwr a chyfarwyddwr cerddoriaeth llawn amser ac wedi cyfansoddi ar gyfer nifer fawr o gynyrchiadau teledu a ffilm.[2]

Aelodau golygu

  • Gwion Huw Jones - llais
  • Dyfan Jones - allweddellau, rhaglennu, gitâr, llais
  • Mathew Rowlands - gitâr, bas
  • Richard Lazlo - llais
  • Simon Jones - drwm bâs, llais

Disgyddiaeth golygu

  • Nuance, EP 12" - (Recordiau Ofn, OFN 08, 1989)
  1. Perthynas (Cymysgiad Mellow)
  2. Stad
  3. Pam?
  4. Celwyddau
  5. Perthynas (Cymysgiad Moog)
  6. Undouche
  • Isomerig, Sengl caset (Recordiau Ofn, OFN 013c, 1990)
  1. Pasg (Downtrodden Mix)
  2. Llofruddwyr (Meany Mix)
  • Haul yr hâf yn hwyr i godi (Gwybod beth sy'n dda), Albwm caset (Recordiau Fflach, C102G, 1992)
  1. Ar Fy Mhen Fy Hun
  2. Llofruddwyr
  3. Ias y Blas
  4. Yr Haul
  5. X + Y
  6. Yn Brifo Mwy
  7. Byth
  8. Fy Hun, Fy Hun, Fy Hun
  9. Ias Y Blas - Pyerhodelta Mix
  10. 'Sneb Yma
  11. 10
  12. Pasg
  13. Synnu Pawb
  14. Bydd yn Rhydd
  15. Haul y Gaeaf

Cyfeiriadau golygu

  1.  Recordiau Rhys Mwyn - Ail Gyfnod. BBC Cymru (2 Medi 2019).
  2.  Rhestr Artistiaid - Manylion. Curiad (10 Ionawr 2005). Adalwyd ar 2 Chwefror 2017.

Dolenni allanol golygu

Fideos YouTube