Ail Ryfel Cartref y Traeth Ifori

Rhyfel cartref byr a ymladdwyd rhwng lluoedd arfog y Traeth Ifori, a oedd yn ffyddlon i'r Arlywydd Laurent Gbagbo, a chefnogwyr Alassane Ouattara oedd Ail Ryfel Cartref y Traeth Ifori, a ddilynodd etholiad arlywyddol dadleuol yn Nhachwedd 2010. Hawliodd y ddau ymgeisydd fuddugoliaeth yn yr etholiad, a chyhuddwyd Gbagbo o dwyll i geisio sicrhau'r nifer fwyaf o bleidleisiau. Er i sylwebwyr rhyngwladol ddatgan taw Ouattara oedd yr enillydd, gwrthododd Gbagbo ildio'i rym, ac aethant ill dau ati i dyngu'r llw arlywyddol a ffurfio llywodraethau ar wahân. Wedi pedwar mis o ymladd ysbeidiol, ffrwydrodd yr argyfwng yn rhyfel ar raddfa eang yn niwedd Mawrth 2011 wedi i Gbagbo orchymyn i'r fyddin gwastrodi'r gwrthdystiadau yn ei erbyn. Cydnabuwyd Ouattara yn enillydd cyfreithlon yr etholiad gan y Cenhedloedd Unedig, a chondemniwyd ymdrechion Gbagbo i aros yn yr arlywyddiaeth. Dechreuodd y Forces Nouvelles (FNCI), a gefnogodd Ouattara, gipio rhannau o'r wlad, a lansiwyd ymgyrch filwrol yn Ebrill, gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig a Ffrainc, i ddymchwel Gbagbo. Wedi deuddeng niwrnod o frwydro yn Abidjan, dygwyd cyrch ar breswylfa'r arlywydd, a chafodd Gbagbo ei arestio, a daeth Ouattara felly i rym. Yn ystod y rhyfel, cafodd rhyw 3000 o bobl eu lladd a 500,000 eu dadleoli.[1]

Ail Ryfel Cartref y Traeth Ifori
Enghraifft o'r canlynolrhyfel cartref Edit this on Wikidata
Dechreuwyd28 Tachwedd 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
LleoliadY Traeth Ifori Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Traeth Ifori Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "ICC to investigate Ivory Coast post-election violence", BBC (3 Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Chwefror 2024.