Cylchgrawn newyddion Libanaidd yw Al-Shiraa (hefyd Ash-Shiraa) (Arabeg: الشراع). Mae'n gylchgrawn Arabeg a sefydlwyd yn 1982 ac a gyhoeddir yn wythnosol. Y golygydd presennol yw Hassan Sabra.[1]

Al-Shiraa
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
GwladLibanus Edit this on Wikidata
IaithArabeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1948 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.alshiraa.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

O ran gwleidyddiaeth, mae wedi cael ei ddisgrifio fel "o blaid Syria".[2] Al-Shiraa oedd y cyntaf i adrodd bod yr Unol Daleithiau wedi bod yn gwerthu arfau i Iran fel rhan o gytundeb cyfrinachol "arfau-am-wystlon" sy'n cael ei adnabod erbyn hyn fel y digwyddiad Iran-Contra.[2]

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu