Pêl-droediwr yw Alec Mudimu (ganwyd ar 8 Ebrill 1995 yn Harare, Simbabwe). Mae’n chwarae fel amddiffynnwr canol dros Simbabwe a chwareuodd yng nghanol y cae dros C.P.D. Derwyddon Cefn yn Uwch Gynghrair Cymru. Symudodd i Sheriff Tiraspol (Moldofa) ym mis Rhagfyr 2019.[1]

Alec Mudimu
Gwybodaeth Bersonol
Dyddiad geni (1995-04-08) 8 Ebrill 1995 (28 oed)
Man geniHarare, Simbabwe
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolSheriff Tiraspol
Rhif8
Gyrfa Ieuenctid
C.P.D. Sheffield Wednesday
2011–2012C.P.D. Stalybridge Celtic
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2012–2016C.P.D. Stalybridge Celtic42(5)
2015C.P.D. Radcliffe Borough F.C. (ar fenthyg)
2016–2017C.P.D. Northwich Victoria
2017C.P.D. Stockport Town
2019–Sheriff Tiraspol0(0)
Tîm Cenedlaethol
2018–Simbabwe18(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 09:48, 7 Ionawr 2019 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 09.48, 7 Ionawr 2019 (UTC)

Symudodd o Harare i Swydd Hertford pan oedd 5 neu 6 oed. Chwaraeodd dros dîm ieuenctid C.P.D. Sheffield Wednesday, ac ymunodd â C.P.D. Stalybridge Celtic yn 2011. Aeth ar fenthyg i C.P.D. Radcliffe Borough yn 2015. Chwaraeodd dros C.P.D. Northwich Victoria a C.P.D. Stockport Town cyn ymuno â’r Derwyddon yng Ngorffennaf 2017. Cafodd dreialon gyda C.P.D. Fleetwood a C.P.D. Rochdale.

Gyrfa ryngwladol golygu

Dewiswyd i chwarae dros Simbabwe yng nghystadleuaeth Cwpan COSAFA yn erbyn Angola, De Africa a Sambia ym Mawrth 2018.[2][3]. Enillodd Simbabwe’r cystadleuaeth, ac aeth Alec ymlaen i gynrychioli ei wlad yng ngemau rhagbrofol Cwpan Cenhedloedd Affrica yn ystod 2018/19.[4]. Cyrhaeddodd Simbabwe'r rowndiau terfynol ar 24 Mawrth 2019, wrth ennill eu grŵp.[5]

Etholwyd Alec ‘Personoliaeth y Flwyddyn’ gan Cyflawnwyr Ifanc Simbabwe yn 2018.[6]

Cyfeiriadau golygu