Aled Gruffydd Jones

academyd cymreig

Academydd yw Aled Gruffydd Jones (ganwyd 1955). Roedd yn Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng Chwefror 2013 ac Awst 2015[1]

Aled Gruffydd Jones
Ganwyd1955 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, is-ganghellor, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Cymrawd Gymdeithas Frenhinol Asiatig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Bu Aled yn dal Cadair Hanes Cymru Syr John Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1994 a 2013; cafodd ei benodi yng Ngorffennaf 2012 yn Bennaeth yr Adran Gymraeg. Bu hefyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Hŷn ers 2005 a bu'n gyfrifol am y ddarpariaeth Gymraeg ar draws y brifysgol.[2]

Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Harlech ac yna ym Mhrifysgol Efrog, ble y cyfarfu â'r awdur a'r gymdeithasegydd gwleidyddol Yasmin Ali (g.1957). Mae ganddo ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Warwick ers 1982.

Mae wedi byw a gweithio yn Aberystwyth ers 1979 pan gafodd ei benodi gan yr Athro Rees Davies yn 1979[3] i'r Adran Hanes Fodern. Yn 1994 unwyd yr Adran Hanes gydag Adran Hanes Cymru ac fe'i gwnaed yn bennaeth ar yr adran newydd.

Roedd yn un o gyfarwyddwyr Coleg Cymraeg Cenedlaethol rhwng 2011 a 2013.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn mynd , Golwg360, 17 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd ar 11 Mawrth 2015.
  2. Golwg, 5 Gorffennaf 2012; tud 4
  3. Golwg, 7 Mawrth 2013; tudalen 15
  4.  Cofnod Cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 11 Mawrth 2016.