Aled Rhys Hughes

ffotograffydd o Gymru

Artist lens a darlithydd ffotograffiaeth yw Aled Rhys Hughes (ganwyd Mehefin 1966). Cafodd ei eni yn Ynyshir, Cwm Rhondda yn 1966 a bu'n gweithio fel ffotograffydd ers ei arddegau.[1] Mae bellach yn byw yn Rhydaman.

Aled Rhys Hughes
Ganwyd1966 Edit this on Wikidata
Ynys-hir Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethffotograffydd, darlithydd Edit this on Wikidata
TadDewi Myrddin Hughes Edit this on Wikidata

Yn 2004, cyhoeddwyd Môr Goleuni Tir Tywyll (Gomer), cyfrol goffa i Waldo Williams, a oedd yn cynnwys lluniau gan Aled Rhys Hughes a wnaed mewn ymateb i rai o gerddi'r bardd.

Enillodd Aled Rhys Hughes y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006 am gyfres o luniau mawr o'r enw Ffarwel Rock, lluniau o'r Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin.

Yn 2008, ymddangosodd cyfres newydd o luniau ochr yn ochr â gwaith bardd, sef Iwan Llwyd, yn y gyfrol arbennig Rhyw Deid yn Dod Miwn (Gomer). Dyfarnwyd Gwobr y Diwydiant i'r gyfrol fel y llyfr lluniau gorau, yn 2010.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Aled Rhys Hughes". BBC Cymru. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.
  2. Laura Chamberlain (9 Awst 2010). "A Turning Tide at the Mission Gallery, Swansea". BBC Wales. Caerdydd. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2012.(Saesneg)