Alice Abadam

ymgyrchydd dros hawliau merched

Roedd Alice Abadam (2 Ionawr 185631 Mawrth 1940) yn actifydd dros achos y swffragetiaid ac yn ymgyrchydd dros hawliau menywod. Roedd hi'n awdur a ysgrifennodd nifer o erthyglau a phamffledi ar hawliau merched.[1][2]

Alice Abadam
Ganwyd2 Ionawr 1856 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 1940 Edit this on Wikidata
Abergwili Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, swffragét Edit this on Wikidata
PartnerAlice Vowe Johnson Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Abadam yn St John’s Wood, Llundain yr olaf o saith plentyn Edward Abadam, Uchel Siryf Caerfyrddin, a'i wraig, Louisa, neé Taylor. Fe’i magwyd yn Neuadd Middleton, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin,[3] a brynwyd ym 1824 gan ei thad-cu tadol, Edward Hamlyn Adams, perchennog caethion yn Jamaica ac AS Caerfyrddin rhwng 1833 a 1834. Ym 1842 etifeddwyd yr ystâd gan ei thad, a gymerodd y cyfenw Abadam wedi hynny.[4]

Crefydd golygu

Ym 1880 cafodd Abadam tröedigaeth i Gatholigiaeth. Bu'n allweddol wrth gael yr urdd o leianod Llydewig Chwiorydd yr Ysbryd Glân i ymsefydlu yng Nghaerfyrddin.

Bu'n hyfforddwraig ac arweinydd côr yr eglwys Gatholig yn y dref a gwasanaethodd fel organydd Eglwys y Santes Fair ar Heol yr Undeb. Bu hefyd yn gwneud gwaith dyngarol, megis ymweld â'r ysbyty iechyd meddwl a charchar y sir

Bywyd personol golygu

Trwy ei gwaith dyngarol yn ysbyty iechyd meddwl Sir Gaerfyrddin cyfarfu Abadam a Dr Alice Neville Vowe Johnson, meddyg a llawfeddyg a oedd wedi bod yn swyddog meddygol yn yr ysbyty. Pan symudodd Dr Johnson i Lundain ym 1904 aeth Abadam gyda hi a bu'r ddwy yn byw gyda'i gilydd hyd farwolaeth Johnson ym 1938. Wedi marwolaeth ei phartner symudodd yn ôl i Sir Gaerfyrddin lle fu fyw gyda'i nai, Ryle Morris, ym Mryn Myrddin, Abergwili, hyd ei farwolaeth.

 

Swffragét ac ymgyrchydd hawliau menywod golygu

Ym 1905 daeth Abadam yn aelod o’r Central Society for Women’s Suffrage, ac o 1906 i 1907 bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU). Ym 1907 ymunodd â Chynghrair Rhyddid y Merched (WFL), gan ddod yn aelod o'i phwyllgor cyntaf.[5]

Roedd hi hefyd yn aelod o'r Church League for Women’s Suffrage, y Women Writers’ Suffrage League, a'r Catholic Women’s Suffrage Society.

Bu ymrwymiadau Abadam fel siaradwr teithiol ar gyfer sefydliadau Swffragét a hawliau menywod yn rhan bwysig o'i bywyd. Roedd galw mawr arni fel siaradwr ffeministaidd. Er bod Alice yn areithio ar ystod eang o bynciau, cyfeiriwyd ei sylwdau, yn aml, at ecsbloetio menywod a merched ifanc, megis mewn darlithiau am "Sut y bydd y bleidlais yn effeithio ar y Traffig Caethweision Gwyn". Byddai’n atgoffa ei chynulleidfa nad oedd y bleidlais yn cael ei cheisio fel symbol o gydraddoldeb yn unig ond fel offeryn a fyddai’n cael ei ddefnyddio i wella bywydau menywod a merched.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi’n aelod o "Swffragetiaid yr WSPU" (SWSPU), sefydliad o a oedd yn parhau i ymgyrchu am y bleidlais i fenywod yn ystod cyfnod y rhyfel a ffurfiwyd i wrthwynebu penderfyniad y teulu Pankhurst i atal yr ymgyrch dros gyfnod y rhyfel. Roedd Abadam, a oedd yn heddychwr fel llawer o’i gymrodyr yn yr SWSPU, yn siarad yn rheolaidd yng nghyfarfodydd yr SWSPU ac yn cyfrannu erthyglau i bapur newydd y sefydliad, The Suffragette News Sheet. Megis ei hysgrifau a’i areithiau cyn y rhyfel, parhaodd i drafod pynciau fel "safle haeddiannol menywod yn y byd", "Traffig y Caethion Gwyn", puteindra, ac yn enwedig y Comisiwn Brenhinol ar Glefydau Gwenerol.

Ym mis Chwefror 1918, pan dderbyniodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl y cydsyniad brenhinol, roedd Abadam yn siomedig gyda’r etholfraint gyfyngedig a roddwyd i fenywod. Yn yr un flwyddyn, cyhoeddodd bamffled o’r enw The Feminist Vote, Enfranchised or Emancipated? Gan ailadroddodd ei chred y dylai menywod ddefnyddio eu pleidlais yn ôl eu hanghenion eu hunain, gan beidio â dibynnu ar ganllaw ar sut i bleidleisio gan dynion.[6] Ym 1920 sefydlodd y Gynghrair Ffeministaidd, grŵp aelodau yn unig a oedd â llyfrgell fenthyca ac oedd yn cynnal cyfarfodydd gyda siaradwyr yn mynychu o nifer o sefydliadau fel yr AFL, Byddin yr Iachawdwriaeth, Sefydliad y Merched, a Chymdeithas Peirianneg y Merched. Bu hefyd yn gwasanaethu fel cadeirydd is-bwyllgor celf Prifysgol Cymru.[7]

Marwolaeth golygu

Bu farw ym Mryn Myrddin, Abergwili yn 84 mlwydd oed, wedi gwasanaeth angladd yn Eglwys Gatholig y Santes Mair, Caerfyrddin aed a'i gweddillion yn ôl i Lundain i'w claddu yn yr un bedd a'i chymar Dr Alice Johnson.

Cyfeiriadau golygu

  1. "ABADAM, ALICE (1856 - 1940), ymgyrchydd dros hawliau merched | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-01-02.
  2. "Abadam, Alice (1856–1940), suffrage activist and women's right's campaigner | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-112786. Cyrchwyd 2019-09-19.
  3. Gardd Fotaneg Cymru Cymru ar Lwyfan y Byd[dolen marw]
  4. Contributer, Web (2018-11-17). "Conference: A Celebration of the Women of Middleton and the estates of Wales". West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond. Cyrchwyd 2019-09-19.
  5. Crawford, Elizabeth (2003). The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866–1928. Routledge. ISBN 9781135434021.
  6. Mosalski, Ruth (2018-02-06). "The legacy left behind by three Welsh suffragists". walesonline. Cyrchwyd 2019-09-19.
  7. Wallace, Ryland (2009). The Women's Suffrage Movement in Wales, 1866–1928. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-708-32173-7..