Mae Allor Moloch yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig sydd wedi'i lleoli gerllaw Llansanffraid Glan Conwy yn Sir Conwy; cyfeiriad grid SH792747. Cyfeiria CADW ati fel "Siambr gladdu ger Hendre-Waelod" (enw fferm gerllaw).[1]

Allor Moloch
Mathsafle archaeolegol, safle archeolegol cynhanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.255893°N 3.810886°W, 53.25599°N 3.811055°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE125 Edit this on Wikidata

Disgrifiad golygu

Lleolir y siambr gladdu hon ar godiad tir isel ar lan dde Afon Conwy tua milltir i'r de-orllewin o bentref Llansanffraid Glan Conwy, mewn cae ger lein Rheilffordd Dyffryn Conwy a thua chan llath o'r afon.[2]

Ceir siambr hirsgwar beddrod o Oes Newydd y Cerrig gyda maen clo mawr a phar o feini ar eu sefyll yn ffurfio porth yng nghornel y de-orllewin. Does dim olion o'r garnedd a fyddai drosti yn aros.[3]

Cefndir golygu

Gelwir y mathau hyn o siambrau yn ”garnedd gellog hir” ac fe'i cofrestrwyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: DE125.

Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid ar gyfer defodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw.

Enw golygu

Mae Moloch yn enw Beiblaidd ar un o dduwiau'r Amoneaid sy'n gysylltiedig ag aberthu plant.[4] Mae'r enw hwn ar y siambr gladdu yn adlewyrchiad o'r gred llên gwerin leol bod y maen glo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aberth ddynol.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Data Cymru Gyfan, CADW
  2. Map OS 1:25,000 Eryri, Ardal Dyffryn Conwy
  3. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).
  4. Thomas Charles, Y Geiriadur Ysgrythurawl, Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1885 Moloch