Mae aAlopwrinol, a werthir oddi tan yr enw masnachol Zyloprim ac eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i leihau lefelau uchel o asid wrig yn y gwaed.[1]

Alopwrinol
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs136.038511 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₅h₄n₄o edit this on wikidata
Enw WHOAllopurinol edit this on wikidata
Clefydau i'w trinGout attack, hyperuricemia, gowt, gowt edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnydd golygu

Fe'i defnyddir yn benodol er mwyn atal gowt, mathau penodol o gerrig yn yr arennau, ac ar gyfer lleihau lefelau uchel o asid wrig wedi triniaeth cemotherapi.[2] Gellir ei gymryd drwy'r geg neu ei chwistrellu i mewn i wythïen.[3]

Sgil effeithiau golygu

Pan gymerir y feddyginiaeth drwy'r geg y mae ei sgileffeithiau cyffredin yn cynnwys brech ac ymdeimlad o gosi. Wrth ei ddefnyddio ar ffurf pigiad, gall arwain at sgil effeithiau megis chwydu a phroblemau ynghylch yr arennau. Er yn hanesyddol na argymhellwyd y feddyginiaeth, mae dechrau rhaglen alopwrinol yn ystod ymosodiad o gowt yn ymddangos yn effeithiol.[4] Dylai'r rheini sydd eisoes ar y feddyginiaeth barhau i'w ddefnyddio. Er ni cheir awgrymiadau bod y fath driniaeth yn niweidiol yn ystod beichiogrwydd, mae'r ymchwil ynghylch y maes yn anfoddhaol.[5] Mae alopwrinol ymhlith y teulu o feddyginiaethau ataliol santhîn ocsidas.

Hanes golygu

Cymeradwywyd Alopwrinol ar gyfer defnydd meddygol yn yr Unol Daleithiau ym 1966. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[6] Gellir cael mynediad i alopwrinol fel meddyginiaeth generig. Ei gost gyfanwerthol fisol yn y byd datblygol yw oddeutu 0.81 i 3.42 o ddoleri.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mae mis o driniaeth wedi'i brisio'n llai na 25 o ddoleri.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Pacher, P.; Nivorozhkin, A; Szabó, C (2006). "Therapeutic Effects of Xanthine Oxidase Inhibitors: Renaissance Half a Century after the Discovery of Allopurinol". Pharmacological Reviews 58 (1): 87–114. doi:10.1124/pr.58.1.6. PMC 2233605. PMID 16507884. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2233605.
  2. WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. t. 39. ISBN 9789241547659. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Allopurinol". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Robinson, PC; Stamp, LK (May 2016). "The management of gout: Much has changed.". Australian family physician 45 (5): 299–302. PMID 27166465.
  5. "Allopurinol Use During Pregnancy | Drugs.com". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 August 2016. Cyrchwyd 20 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Allopurinol". International Drug Price Indicator Guide. Cyrchwyd 8 December 2016.
  8. Hamilton, Richart (2015). Tarascon Pocket Pharmacopoeia 2015 Deluxe Lab-Coat Edition. Jones & Bartlett Learning. t. 465. ISBN 9781284057560.