Nofiwr Cymreig yw Alys Thomas (ganwyd 10 Hydref 1990). Fe'i ganwyd yn Isleworth, Llundain i fam o Loegr a thad o Gymru.[1] Cychwynodd nofio pan oedd yn faban ac ymunodd â chlwb nofio Kingston Royals yn 5 oed[2].

Alys Thomas
Gwybodaeth bersonol
Ganwyd (1990-10-10) 10 Hydref 1990 (33 oed)
Llundain, Lloegr
Camp
GwladCymru
ChwaraeonNofio
CampDull Pili Pala
ClwbDinas Abertawe
Diweddarwyd 20 Ebrill 2018.

Wedi cwblhau ei harholiadau Safon Uwch yn 2008, symudodd i Abertawe i ymuno â'r Ganolfan Berfformiad ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ac arhosodd yna ers hynny. Graddiodd yn 2015 â gradd mewn Seicoleg. Mae'n cystadlu dros Gymru a gwledydd Prydain.

Cystadlodd yn y gamp 100m dull pili-pala ym Mhencampwriaethau Mabolgampau Dŵr y Byd 2017.[3][4]

Yng Nghemau'r Gymanwlad 2018, enillodd fedal aur cyntaf Cymru yn y pwll, gan ennill y 200m dull pili-pala mewn amser o 2:05.45.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Alys Thomas. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 14 Ebrill 2018.
  2.  Alys Thomas Biography.
  3. "Heats results". FINA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-26. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.
  4. "2017 World Aquatics Championships > Search via Athletes". Budapest 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-02. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2017.
  5. Tair aur, dwy arian ac efydd arall i Gymru yn y Gemau , BBC Cymru Fyw, 9 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2018.