Mae Ambacourt yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc[1] Mae'n ffinio gyda Mazirot, Pont-sur-Madon, Poussay, Puzieux, Vomécourt-sur-Madon, Bouzanville, Diarville, Bettoncourt, Chauffecourt, Frenelle-la-Grande ac mae ganddi boblogaeth o tua 279 (1 Ionawr 2021).

Ambacourt
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth279 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd6.76 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMazirot, Pont-sur-Madon, Poussay, Puzieux, Vomécourt-sur-Madon, Bouzanville, Diarville, Bettoncourt, Chauffecourt, Frenelle-la-Grande Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.3472°N 6.1414°E Edit this on Wikidata
Cod post88500 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Ambacourt Edit this on Wikidata
Map

Poblogaeth hanesyddol golygu

 

Lleoliad golygu

Mae'r pentref wedi ei leoli ym mhen gogleddol département Vosges tua 4 km o dref Mirecourt. Mae’n sefyll ar ochr y bryn ar lan chwith yr afon Madon. Mae gwaelod y dref ar uchder o 259 metr tra bod ei phen mwy na 280 metr. Mae'r safle uchel yn caniatáu i ymwelwyr ei weld o bell. Mae afon Madon yn enwog fel cartref i'r afanc Ewropeaidd

Hanes golygu

Mae hanes Ambacourt yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn hanesyddol. Mae presenoldeb dynol yn cael ei ardystio gan ddolmenni sy’n dyddio o 1000 hyd at 500 mlynedd CC. Mae yna rywfaint o dystiolaeth bod y Rhufeiniaid wedi bod yn bresennol yn yr ardal.

Mae’r cyfeiriad cyntaf at enw’r dref (wedi ei sillafu yn Ymbercurte) yn dyddio o fwla Pabyddol gan y Pab Calistus II, ym 1119. Mae’r Pab yn cadarnhau bod y pentref yn eiddo i Abaty Chaumousey.

Ym 1390 ymladdwyd brwydr ger y pentref rhwng arglwyddi Bwrgwyn a Dug Lorraine.

Cafodd Ambacourt ei ddifrod yn arw yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain a ymladdwyd rhwng gwladwriaethau Protestannaidd a Chatholig yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd rhwng 1618 a 1648; erbyn 1638 y melinydd oedd unig breswylydd y pentref.

Safleoedd a Henebion golygu

  • Nifer o hen adeiladau o’r 19g gan gynnwys tai Lorraine traddodiadol, hen dai golchi a ffynhonnau.
  • Mae allor eglwys y plwyf wedi ei gofrestru fel heneb gan wladwriaeth Ffrainc ers 1913.[2]

Pobl enwog o Ambacourt golygu

  • Ganwyd François Chopin, taid tadol y cyfansoddwr Frederic Chopin, yn Ambacourt ym 1738[3]

Galeri golygu


Gweler hefyd golygu

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.