Amy Johnson

hedfanwr (1903-1941)

Roedd Amy Johnson CBE (1 Gorffennaf 1903 – a diflannodd ar 5 Ionawr 1941) yn beilot arloesol o Loegr a hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Lundain i Awstralia .

Amy Johnson
Ganwyd1 Gorffennaf 1903, 1904 Edit this on Wikidata
Kingston upon Hull Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Aber Tafwys Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhedfanwr, peiriannydd, peilot gleiderau Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Cymdeithas Perianeg y Merched Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Air Transport Auxiliary Edit this on Wikidata
TadJohn William Johnson Edit this on Wikidata
MamAmy Hodge Edit this on Wikidata
PriodJim Mollison Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Harmon, Gwobr Ryngwladol Menywod am Hedfan, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Segrave Trophy Edit this on Wikidata

Llwyddodd i osod sawl record hedfan dros bellter hir yn ystod y 1930au, a hynny wrth hedfan ar ei phen ei hun neu gyda'i gŵr, Jim Mollison. Ym 1933, Johnson oedd yr ysbrydoliaeth i gymeriad Katharine Hepburn yn y ffilm Christopher Strong. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd hedfanodd fel rhan o'r Air Transport Auxiliary a diflannodd yn ystod taith fferi. Bu llawer o drafod am nifer o flynyddoedd ynghylch union achos ei marwolaeth.

Ei bywyd cynnar golygu

Ganwyd Amy Johnson yn 1903 yn Kingston upon Hull, East Riding, Swydd Efrog. Roedd hi'n ferch i Amy Hodge, wyres i William Hodge, Maer Hull, a John William Johnson yr oedd ei deulu yn fasnachwyr pysgod gydag Andrew Johnson, Knudtzon a'r Cwmni. Hi oedd yr hynaf o dair chwaer, a'r chwaer agosaf iddi o ran oedran oedd Irene a oedd flwyddyn yn iau.[1]

Addysgwyd Johnson yn Ysgol Uwchradd Ddinesig Boulevard ( Ysgol Uwchradd Kingston yn ddiweddarach) a Phrifysgol Sheffield, lle graddiodd gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn economeg. Bu'n gweithio wedyn yn Llundain fel ysgrifennydd i'r cyfreithiwr William Charles Crocker. Dechreuodd hedfan fel hobi, gan ennill tystysgrif awyrenwyr, Rhif 8662, ar 28 Ionawr 1929, a thrwydded peilot "A", Rhif 1979, ar 6 Gorffennaf 1929. Llwyddodd i wneud hynny dan ofal y Capten Valentine Baker yng Nghlwb Awyrennau Llundain. Yn yr un flwyddyn, hi oedd y fenyw Brydeinig gyntaf i ennill trwydded "C" peiriannydd llawr.[2]

Gyrfa golygu

 
Johnson yn ei Gipsy Moth yn gadael Awstralia am Newcastle, 14 Mehefin 1930
Amy Johnson yn hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia

Roedd Johnson yn ffrind ac yn gydweithiwr i Fred Slingsby. Ei gwmni ef, sef Slingsby Aviation o Kirbymoorside, Gogledd Swydd Efrog, oedd cwmni gleiderau enwocaf y DU. Cyfrannodd Slingsby at sefydlu Clwb Gleidio Swydd Efrog yn Sutton Bank ac roedd Amy Johnson yn aelod yno yn ystod y 1930au, a chafodd ei hyfforddi yno.[3][4]

Cafodd Johnson yr arian ar gyfer ei hawyren gyntaf gan ei thad, a oedd bob amser yn un o'i chefnogwyr mwyaf, a'r Arglwydd Wakefield .[5] Prynodd hi de Havilland DH.60 Gipsy Moth G-AAAH ail-law a'i enwi'n Jason ar ôl nod masnach busnes ei thad.[6] [Note 1]

Hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia a gwnaeth hynny yn 1930. Cafodd Johnson gydnabyddiaeth fyd-eang pan wnaeth hynny. Gadawodd Maes Awyr Croydon, Surrey yn yr awyren G-AAAH Jason ar 5 Mai a glaniodd yn Darwin, Tiriogaeth y Gogledd ar 24 Mai, sef taith o 11,000 o filltiroedd (18,000 km).[7] Chwe diwrnod yn ddiweddarach, difrodwyd ei hawyren oherwydd gwynt cryf wrth lanio ym maes awyr Brisbane. Hedfanodd i Sydney gyda'r Capten Frank Follett tra yr oedd ei hawyren yn cael ei thrwsio. Yn ddiweddarach hedfanwyd Jason i Mascot, Sydney, gan y Capten Lester Brain .[8] Mae Jason bellach mewn arddangosfa barhaol yn Oriel Hedfan yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain .

I gydnabod y gamp hon, derbyniodd Amy Johnson Dlws Harmon yn ogystal â CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd George V yn 1930. Cafodd ei hanrhydeddu hefyd â thrwydded peilot sifil Rhif 1 yn ôl Rheoliadau Mordwyo Awyr Awstralia 1921.[9]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Amy Johnson pioneering aviator" (PDF). Hull Local Studies Library, Hull City Council. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.
  2. Aitken, Kenneth (Gorffennaf 1991). "Amy Johnson (The Speed Seekers)." Aeroplane Monthly, Vol. 19, no. 7, Issue no. 219. p. 440.
  3. "Amy's Yorkshire Flying Club". Amy Johnson Arts Trust. Cyrchwyd 24 Awst 2019.
  4. "Amy's Yorkshire Flying Club". Yorkshire Post. Cyrchwyd 24 Awst 2019.
  5. Dunmore, Spencer (2004). "Undaunted: Long-Distance Flyers in the Golden Age of Aviation" Toronto: McClelland & Stewart. ISBN 0771029373. pp. 194–195.
  6. Eden, P. E. Civil Aircraft 1907–Present 2012 p. 46 colour drawing ISBN 9781908696649
  7. Marshall, A. C., gol. (1934). Newnes Golden Treasury. George Newnes Ltd. t. 488 (photo plate opposite).
  8. "Miss Amy Johnson". The Canberra Times. 4 (813). Australian Capital Territory, Australia. 30 Mai 1930. t. 1. Cyrchwyd 24 Mai 2018 – drwy National Library of Australia.
  9. "Brearley Pilot's Licences". Treasures of the Battye Library. State Library of Western Australia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2009. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2007.