Llenor Ffrengig yn yr iaith Ffrangeg oedd Anatole France (Jacques-Anatole-François Thibault; 16 Ebrill 184412 Hydref 1924) sydd yn nodedig am ei nofelau, dramâu, a beirniadaeth lenyddol sydd yn mynegi sgeptigiaeth, eironi, ac hynawsedd deallusol. Dyfarnwyd iddo Wobr Lenyddol Nobel ym 1921 "i gydnabod ei orchestion llenyddol penigamp, a nodweddir gan urddas eu harddull, cydymdeimlad dwfn o'r ddynolryw, graslonrwydd, ac anian wir Ffrengig".[1]

Anatole France
Ffotograff o Anatole France ym 1921.
FfugenwAnatole France, Anatolis Fransas Edit this on Wikidata
GanwydJacques François-Anatole Thibault Edit this on Wikidata
16 Ebrill 1844 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 1924 Edit this on Wikidata
Q22994052 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Collège Stanislas de Paris Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, nofelydd, llyfrgellydd, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, rhyddieithwr, cofiannydd, critig Edit this on Wikidata
Swyddllywydd corfforaeth, seat 38 of the Académie française Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThaïs, Les dieux ont soif Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
MudiadRhyddfeddyliaeth Edit this on Wikidata
PriodValérie Guérin de Sauville, Emma Laprévotte Edit this on Wikidata
PartnerLéontine Lippmann Edit this on Wikidata
PlantSuzanne Thibault Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel, Gwobrau Montyon, Vitet Prize, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef ym Mharis yn fab i werthwr llyfrau. Yn ei ieuenctid ymroddai ei hun i lenydda, a dylanwadwyd ar ei farddoniaeth gynnar gan y Parnasiaid. Trodd at ryddiaith ffuglennol, gan fynegi sgeptigiaeth ideolegol yn ei nofelau cynnar, gan gynnwys Le Crime de Sylvestre Bonnard (1881), La Rôtisserie de la Reine Pédauque (1893), a Les Opinions de Jérome Coignard (1893). Arbrofodd hefyd â nofelau rhamantus, Thaïs (1890) a Le Lys rouge (1894). Mae'r cylch L'Histoire contemporaine (1897–1901) yn ymwneud â gwleidyddiaeth ac achos Dreyfus. Mae ei nofelau diweddarach yn ymdrin â phynciau cymdeithasol. Cofleidiodd gomiwnyddiaeth tuag at ddiwedd ei oes. Bu farw yn Saint-Cyr-sur-Loire, ger Tours, yn 80 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1921", Sefydliad Nobel. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Ebrill 2023.
  2. (Saesneg) Anatole France. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ebrill 2023.