Andras Millward

Awdur gwyddonias o Gymro

Awdur Cymreig toreithiog oedd Andras Millward (196616 Hydref 2016).[1] Roedd yn nodedig am y nofelau Deltanet, Prosiect Nofa ac Un Cythraul yn Ormod (Y Lolfa, 1996) [2] sy'n cael ei chydnabod fel un o gampweithiau ffuglen yr 1990au.

Andras Millward
Ganwyd1966 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadEdward Millward Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Fe'i magwyd yn Aberystwyth yn fab i'r darlithydd Cymraeg Tedi Millward a Silvia Hart. Ei chwaer yw'r gantores Llio Millward. Roedd yn byw ym Mryste ac yn gweithio yn y maes technoleg gwybodaeth. Roedd e hefyd yn hyfforddwr ar gyfer crefft ymladd Wing Chun.[3]

Bu farw yn Hydref 2016 yn 50 oed. Roedd ganddo ddwy ferch. Dywedodd yr awdures Elin Llwyd Morgan ei fod yn "berson addfwyn iawn, ac roedd ganddo hiwmor tawel" a fod "ei gyfraniad yn un pwysig achos roedd o’n ysgrifennu mewn genre sy’n eithaf anodd yn y Gymraeg".

Llyfryddiaeth golygu

 

Cyfeiriadau golygu

  1. Teyrnged i’r awdur Andras Millward , Golwg360, 31 Hydref 2016.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
  3.  Yatedo - Andras Millward. Adalwyd ar 23 Awst 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.