Andrew Thomas

Cyflwynydd radio o Gymro

Cyflwynydd radio o Gymro oedd Andrew "Tommo" Thomas (1 Chwefror 196728 Gorffennaf 2020). Roedd hefyd yn lais cyfarwydd fel y cyhoeddwr yn stadiwm rygbi Parc y Scarlets.[1]

Andrew Thomas
Ganwyd1 Chwefror 1967 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw28 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Magwyd Andrew Paul Thomas yn Aberteifi. Yn ôl ei hunangofiant, fe adawodd yr ysgol cyn gynted ag y medrai, gan gymryd nifer o swyddi: dyn post, cynnal discos yn Aberteifi ac yn Sbaen, torri beddau, a gweithio mewn siop cigydd.

Gyrfa golygu

Bu'n cyflwyno'r sioe frecwast ar orsafoedd Nation Broadcasting yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys Radio Sir Gâr, Radio Pembrokeshire a Radio Ceredigion. Yn 2011 enillodd wobr Gyflwynydd Radio’r Flwyddyn ar gyfer gorsafoedd sy’n gwasanaethu hyd at 300,000 o bobol.[2]

Ymunodd a BBC Radio Cymru yn 2014 gyda sioe rhwng 2 a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau.[3] Yng Ngorffennaf 2017 fe'i gwaharddwyd o'i waith am rai wythnosau tra bod y BBC yn cynnal ymchwiliad i gŵyn am sylwadau a wnaeth yn ystod Gŵyl Nôl a ’Mlân yn Llangrannog. Ysgrifennodd at yr Ŵyl i ymddiheuro a dychwelodd i'w sioe ar ddiwedd Gorffennaf.[4] Yn Chwefror 2018, cyhoeddodd y byddai'n gadael Radio Cymru gan ddychwelyd i gwmni Nation i gyflwyno rhaglen newydd rhwng 11am a 3pm. Cyflwynyodd ei sioe Radio Cymru olaf ar ddydd Iau, 29 Mawrth 2018.[5] Rhoddodd y gorau i gyflwyno ar orsafoedd Nation yn 2019.

Ddiwrnod cyn ei farwolaeth cyhoeddodd ar Twitter ei fod am ddychwelyd i'r radio gyda sioe nos Sul rhwng 21:00 a 22:00 ar Radio Pembrokeshire a Radio Carmarthenshire.[6]

Cyhoeddwyd Tommo - Stori'r Sŵn Mawr yn 2014, cyfrol o straeon am hanes a bywyd Tommo.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Donna ac mae ganddynt un mab. Yn 2006 cafodd ddiagnosis o afiechyd yr aren. Cychwynnodd gael dialysis yn Ionawr 2007 ac yna trawsblaniad aren ym Mehefin yr un flwyddyn.[7]

Bu farw yn sydyn yn ei gartref yn 53 mlwydd oed yn Maesglas, Aberteifi. Cynhaliwyd ei angladd ar 8 Awst 2020 a daeth cannoedd o bobl allan ar gae pêl-droed Maesglas. Y Parchedig Huw George arweiniodd y gwasanaeth ar lwyfan yn yr awyr agored. Cyrhaeddodd yr arch i gerddoriaeth 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan. Cafwyd teyrngedau gan Rupert Moon a Jon Daniels, Rheolwr cyffredinol Y Scarlets. Cafwyd perfformiad gan y grŵp lleol Ail Symudiad gan chwarae un o hoff ganeuon Tommo, "Geiriau". Cludwyd yr arch mewn hers drwy ganol tref Aberteifi, gyda pobl yn cymeradwydo ar ochr y stryd.<ref>Gwall Templed: Mae paramedr teitl yn orfodol. <ref>

Cyfeiriadau golygu

  1. Y cyflwynydd Andrew 'Tommo' Thomas wedi marw , BBC Cymru Fyw, 28 Gorffennaf 2020.
  2. Gwobr Brydeinig i Radio Ceredigion , Golwg360, 8 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  3. Amserlen Radio Cymru ar ei newydd wedd , Golwg360, 10 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  4. Tommo yn ôl ar yr awyr ddydd Llun nesaf , Golwg360, 26 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.
  5. Tommo yn gadael Radio Cymru , Golwg360.
  6. Welsh radio presenter Andrew Tommo Thomas has died (en) , RadioToday.co.uk, 28 Gorffennaf 2020.
  7. Bywyd newydd , BBC Cymru Fyw, 7 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd ar 20 Chwefror 2018.

Dolenni allanol golygu