Angela Burns

gwleidydd Cymreig ac AC

Gwleidydd Cymreig yw Angela Burns. Bu'n Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rhwng 2007 a 2021.

Angela Burns
Ysgrifennydd Cysgodol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Deiliad
Cychwyn y swydd
2016
ArweinyddAndrew R. T. Davies
Paul Davies
Gweinidog Cysgodol dros Addysg
Yn ei swydd
2010–2016
ArweinyddAndrew R. T. Davies
Aelod o'r Senedd
dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
Yn ei swydd
3 Mai 2007 – 29 Ebrill 2021
Rhagflaenwyd ganChristine Gwyther
Dilynwyd ganSam Kurtz
Mwyafrif1,504 (5.3%)
Manylion personol
Plaid wleidyddolCeidwadwyr
PriodAndrew Burns
CartrefSir Benfro & Caerdydd
PwyllgorauCadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2008-2011, Aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb. Ar hyn o bryd yn aelod o Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
PortffolioComisiynydd Senedd Cymru

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Burns i deulu Seisnig ac fe'i magwyd mewn sawl gwlad dramor. Fe aeth i fyd busnes ar ôl gadael ysgol, yn gweithio i gwmnïau fel Waitrose, Thorn EMI a Asda gan ddod yn gyfarwyddwr ei chwmni ei hun. Yn ddiweddarach, symudodd i Sir Benfro gyda'i gŵr a daeth yn weithgar mewn gwleidyddiaeth.

Gyrfa wleidyddol golygu

Yn etholiad y Cynulliad yn 2007 enillodd y sedd gan guro'r aelod blaenorol, Christine Gwyther (Plaid Lafur) o ddim ond 98 pleidlais a John Dixon (Plaid Cymru) o 250 pleidlais mewn gorest agos iawn.

Roedd hi'n Weinidog Cysgodol dros Gyllid a Chyflenwi Sector Gyhoeddus rhwng 11 Gorffennaf 2007 a 16 Mehefin 2008 ac yna daeth yn Weinidog Cysgodol dros Drafnidiaeth ac Adfywio ar 22 Hydref 2008.[1]

Yng Ngorffennaf 2020 dywedodd na fyddai yn cystadlu ei sedd yn etholiad Senedd Cymru yn 2021.[2]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Christine Gwyther
Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
20072021
Olynydd:
Sam Kurtz

Cyfeiriadau golygu

  1. "Greasy wops slur Tory is general election candidate" (yn Saesneg). Wales Online. 2008-10-22. Cyrchwyd 2008-11-07.
  2. Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gadael Senedd Cymru , BBC Cymru Fyw, 15 Gorffennaf 2020.