Annette Bryn Parri

cerddor Cymreig

Cyfeilyddes a pherfformwraig yw Annettte Bryn Parri. Ganed yn Neiniolen, Gwynedd, ble mae’n dal i fyw. Wedi iddi astudio’r piano gyda Rhiannon Gabrielson o Benmaenmawr aeth ymlaen i astudio gyda Marjorie Clement yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd, lle graddiodd yn 1984. Wrth gyfeilio ym Manceinion, roedd Annette yn arbenigo mewn Lieder, oratorio a’r opera, ond roedd ei diddordeb mwyaf yng nghyfansoddwyr y cyfnod Rhamantaidd.

Annette Bryn Parri
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfeilydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Yn bymtheng mlwydd oed, roedd Annette yn gyfeilydd swyddogol. Yn 1982 enillodd wobr Grace Williams am gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd ym Mhwllheli. Yn 1983, cafodd ei gweld am y tro cyntaf ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni. Enillodd y Rhuban Glas offerynnol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl yn 1985. Yn 1984 ymunodd a’r Adran Gerdd ym Mhrifysgol Cymru Bangor, ac ers 1984, mae Annette wedi bod yn diwtor piano i fyfyrwyr cerddoriaeth sy’n dilyn cyrsiau B.A. a B.Cerdd ac mae’n cyfeilio i fyfyrwyr yn eu harholiadau perfformio.

Mae'n cyfeilio i nifer o brif artistiaid Cymru fel Bryn Terfel ac Aled Jones, Eirian James, Gwyn Hughes-Jones, Leah Marian Jones a Rebecca Evans. Mae wedi cyfrannu i nifer o gynyrchiadau teledu fel Noson Lawen, Cân i Gymru. Meistroli, a llawer mwy. Mae ei chyfansoddiadau yn cynnwys ei threfniant o ganeuon Andrew Lloyd Webber, caneuon Cymreig a melodïau amrywiol, cerddoriaeth i ffilm a cherddoriaeth ysgafn.

Mae wedi gwneud ymddangosiadau mewn cyngherddau, fel perfformwraig ac fel cyfeilyddes trwy Gymru a Lloegr, yn ogystal ag yn yr Almaen, Llydaw, yr Eidal, Nigeria, Awstralia a Hong Cong - ac ar fwrdd y QE2. Mae wedi cyfeilio yn Neuadd Albert, Llundain ar sawl achlysur, a bu Syr Andrew Lloyd Webber, Syr George Solti, y Tywysog Charles a’r diweddar Dywysoges Diana ymhlith ei chynulleidfaoedd preifat.

Disgograffeg golygu

Dyma restr o ganeuon gan Annette Bryn Parri. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i Cwmni Recordiau Sain.[1]

Teitl y gân Clip sain Blwyddyn cyhoeddi Rhif Catalog
Bugeilio'r Gwenith Gwyn 2005 SAIN SCD 2368
El Cumbanchero 2005 SAIN SCD 2368
Hwiangerdd a Breuddwydion 2005 SAIN SCD 2368
Il Spirto Gentil 2005 SAIN SCD 2368
La Vergine 2005 SAIN SCD 2368
Le Coucou 2005 SAIN SCD 2368
Moonlight Sonata 2005 SAIN SCD 2368
Oh Holy Night 2005 SAIN SCD 2368
Prelude yn C Leiaf 2005 SAIN SCD 2368
Rhapsody in Blue 2005 SAIN SCD 2368
Romance de Amor 2005 SAIN SCD 2368
Tarantelle 2005 SAIN SCD 2368
Toccata yn D Leiaf 2005 SAIN SCD 2368
Un Mondo a Parte 2005 SAIN SCD 2368
Moonlight Sonata 2009 SAIN SCD 2558

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.