Annwyl D.J. - Llythyrau D.J., Saunders, a Kate

llyfr

Detholiad o lythyrau rhwng D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis wedi'u golygu gan Emyr Hywel yw Annwyl D.J.: Llythyrau D.J., Saunders, a Kate. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 04 Mai 2007. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Annwyl D.J. - Llythyrau D.J., Saunders, a Kate
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
GolygyddEmyr Hywel Edit this on Wikidata
AwdurEmyr Hywel
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi4 Mai 2007 Edit this on Wikidata
PwncAstudiaethau llenyddol
Argaeleddmewn print
ISBN9780862439651
Tudalennau384 Edit this on Wikidata
GenreLlenyddiaeth Gymraeg


Disgrifiad golygu

Detholiad o 209 o lythyrau rhwng D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis - llythyrau sy'n codi'r llen ar fywyd llenyddol a gwleidyddol Cymru am ran helaeth o'r 20g ac sydd hefyd yn llawn ysgrifennu cain gan rai o lenorion pwysicaf y cyfnod yng Nghymru.

Mae Kate Roberts yn datgelu 'nad oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i’; a D. J. Williams yn ceisio perswadio Saunders Lewis i roi’r gorau i ysgrifennu i’r Empire News; a Saunders Lewis,yn beirniadu Waldo Williams am beidio â thalu’r dreth incwm fel protest yn erbyn rhyfel, gan haeru ei fod yn 'rhoi’r argraff i’r di-Gymraeg mai pobl gysetlyd, od, yn chwilio am gyfle i fynd i’r carchar yw’r cenedlaetholwyr Cymreig'.

Ar D.J. y gweithiodd ac y gweithia Emyr Hywel yn bennaf (peth o ffrwyth ei waith ymchwil yn Aberystwyth yw’r gyfrol), ond gydag S.L., llosgwr Penyberth, y mae’n ochri’n wleidyddol, a’i fod yr un mor feirniadol o arweiniad Gwynfor Evans o’r Blaid Genedlaethol ag yr oedd S.L. ei hun. Cyhoeddir yma hefyd y llythyr hwnnw a anfonodd D.J. at S.L. Ddydd Calan 1963, yn canmol Gwynfor Evans ar achlysur diarddel Neil Jenkins o’r Pwyllgor Gwaith. Dywed y Golygydd hefyd mai ‘digon oeraidd’ oedd pethau rhwng G.E. a K.R. yn 1961: ie, y pryd hwnnw, pan oedd hi'n pledio dros weithredu llymach yn erbyn boddi Tryweryn; ond ar hyd y blynyddoedd wedyn yr oedd ganddi ffotograff o Gwynfor ar ei silff-ben-tân.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013