Anwen Francis

sgriptiwr a aned yn 1979

Awdures plant Cymraeg ydy Anwen Francis (ganwyd 16 Ionawr 1979, Aberteifi, Ceredigion). Mae hefyd yn ysgrifennu colofnau'n rheolaidd ar gyfer cylchgronau marchogaeth a phapurau wythnosol. Mynychodd Ysgol Plant Bach Aberteifi, Ysgol Gynradd Aberteifi, Ysgol Uwchradd Aberteifi a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Gweithiodd i'r BBC fel gohebydd am chwe mlynedd cyn symyd i weithio i Gyngor Sir Ceredigion fel Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol. Bellach mae'n gweithio fel Cyfieithydd i Adran y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Me'n feirniad ceffylau ac yn cystadlu ar draws Cymru a Lloegr.

Anwen Francis
Ganwyd16 Ionawr 1979 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethsgriptiwr Edit this on Wikidata

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu