Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg, Wrecsam

Ardal gadwraeth i'r de o ganol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg (Saesneg: Fairy Road Conservation Area).

Lleoliad golygu

 
Stryt y Tylwyth Teg, Wrecsam - arwydd dwyieithog

Mae Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg tua milltir i'r de o ganol Wrecsam, [1] rhwng Parc Bellevue ac Ysgol Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff.

Calon yr ardal gadwraeth yw Ffordd y Tylwyth Teg, sy'n cysylltu Ffordd Rhiwabon â Ffordd Erddig. Mae ffiniau'r ardal yn rhedeg ar hyd Ffordd Rhiwabon, Ffordd y Tylwyth Teg, Ffordd Sonlli, Ffordd Caer y Bryn, Ffordd Percy, Stryt Trefor, Ffordd Erddig a Ffordd Wellington. [1]

Mae'r ardal gadwraeth yn cynnwys y strydoedd canlynol: Ffordd y Tylwyth Teg, Ffordd Belmont (Belmont Road), Ffordd Erddig (Erddig Road), Ffordd Sonlli (Sontley Road), Ffordd Faddon (Bath Road), Stryt Trefor (Trevor Street) (yn rhannol), Ffordd Rhiwabon (Ruabon Road) (yn rhannol), Ffordd Belgrave (Belgrave Road), Ffordd Percy (Percy Road) (yn rhannol) a Ffordd Caer y Bryn (Hillbury Road). [1]

Hanes golygu

 
Ffordd y Tylwyth Teg - o'r gyffordd gyda Ffordd Rhiwabon a Ffordd Victoria

Yn ardal Ffordd y Tylwyth Teg mae dwy domen Oes yr Efydd, [2]Fairy Oak Round Barrow [3] ar Ffordd y Tylwyth Teg, a Hillbury Round Barrow [4] ar Ffordd Caer y Bryn.

Cafodd ardal Ffordd y Tylwyth Teg ei chynllunio yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel maestref breswyl ar gyfer Wrecsam.

Prif nodwedd arbennig yr ardal yw'r manylion Celf a Chrefft nodedig ar lawer o'r adeiladau.

Cafodd Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg ei dynodi ym mis Awst 1975 a newidwyd ei ffin yn 1997. [1]

Disgrifiad golygu

Mae Ardal Gadwraeth Ffordd y Tylwyth Teg yn gorwedd mewn ardal breswyl gyda nifer o ddatblygiadau tai Fictoraidd o frics coch. Ychydig i'r gogledd-ddwyrain mae ardal gadwraeth arall, Ardal Gadwraeth Ffordd Salisbury.

Mae nifer o adeiladau rhestredig yn yr ardal:

- Tŷ’r Esgob (Bishop's House), Ffordd Sonlli, a gafodd ei adeiladu yn 1865 yn ôl cynllun gan y pensaer lleol J.R Gummow ar gyfer Thomas Williams. Enw gwreiddiol y tŷ oedd Plas Tirion. Bellach mae'r tŷ yn cael ei ddefnyddio fel preswylfa esgob Catholig Wrecsam. [5]

 
Tŷ Stafford

- Tŷ Stafford (Stafford House), sy'n sefyll ar 'ynys' wedi'i ffurfio gan Ffordd Erddig, Ffordd Sonlli a Ffordd y Tylwyth Teg. Adeiladwyd Tŷ Stafford yn 1876, yn ôl cynllun gan y pensaer E.A Ould (yn ôl pob tebyg) ar gyfer W.E Samuel. Mae'r tŷ’n enghraifft rhagorol o'r arddull Celf a Chrefft. Mae'n ffurfio grŵp gyda rhifau 5 a 7 Ffordd y Tylwyth Teg. [6]

- Rhifau 5 a 7, Ffordd y Tylwyth Teg. Adeiladwyd y tai yn 1881 fel pâr gan E.A Ould. Enw gwreiddiol Rhif 5 oedd Fairy Mount, ac mae tomen gladdu Oes yr Efydd yn bodoli o hyd yng ngardd y tŷ. [7]

- Rhif 9, Ffordd y Tylwyth Teg, a gafodd ei adeiladu yn ol pob tebyg tua 1880 gan E.A Ould. [8]



Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Ardaloedd Cadwraeth - Cyngor Bwrdeistref Wrecsam". Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  2. "All about Wrexham North Wales and its History". Chrismeyers.col.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  3. "Fairy Oak Round Barrow, Offa, Wrexham (Wrecsam)". ancientmonuments.co.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  4. "HIllbury Round Barrow, Offa, Wrexham (Wrecsam)". ancientmonuments.co.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  5. "The Bishop's House, Sontley Road". Coflein. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  6. "Stafford House, Offa, Wrexham". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  7. "5, Fairy Road, Wrexham, Clwyd, LL13 7PT, Offa, Wrexham". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.
  8. "No 9 Fairy Road (N Side), Clwyd, Offa, Wrexham". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 29 Mawrth 2023.