Ardal Lywodraethol Zarqa
Ardal Lywodraethol Zarqa (Arabeg: محافظة الزرقاء Muħāfazat az-Zarqāʔ; tafodieithoedd lleol "ez-Zergā" neu "ez-Zer'a") yw'r trydydd Ardal Lywodrethol ("Gofernad") fwyaf yn Iorddonen yn ôl poblogaeth. Prifddinas Gofernad Zarqa yw dinas Zarqa City, sef y ddinas fwyaf yn y dalaith. Mae wedi ei leoli 25 cilomedr (16 milltir) i'r dwyrain o brifddinas yr Iorddonen Amman. Yr ail ddinas fwyaf yn y llywodraethiant yw Rwseiffa.
Math | Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen |
---|---|
Prifddinas | Amman |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Iorddonen |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 4,761.3 km² |
Yn ffinio gyda | Mafraq Governorate, Ardal Lywodraethol Amman |
Cyfesurynnau | 31.83°N 36.83°E |
JO-AZ | |
Mae Gofernad Zarqa yn gartref i ganolfannau milwrol ac awyr mwyaf lluoedd arfog yr Iorddonen.
Hanes golygu
Ceir olion o aneddau a gwareiddiad yn ardal bresenol Gofernad Zarqa ers o leiaf yr Oes Efydd, yr amlycaf oedd y teyrnasau Amonitiaid a'r Nabateaniaid, a adeiladodd y gaer o'r enw Qasr al Hallabat, a ddefnyddiwyd wedyn gan y Rhufeiniaid, ac yna fel palas anialwch gan yr linach Fwslim yr Umayyad.
Yr olion hanesyddol mwyaf arwyddocaol yw'r palasau anialwch llinach derynasol yr Umayyad, megis Qasr Amra, safle Treftadaeth y Byd, Qasr al Hallabat, Qasr Shabib yng nghanol dinas Zarqa, yn ogystal â Chastell Azraq.
Castell Azraq golygu
Ar ôl adeiladu rheilffordd Hejaz gan y Tyrciaid Otoman ar ddechrau'r 1900au, daeth Zarqa yn ganolbwynt strategol bwysig yn y cyswll rhwng dinasoedd Damascus â Medina, a dechreuodd dinasoedd ar hyd y rheilffordd lewyrchu. Yn ddiweddarach, roedd gan Lleng Arabaidd yr Iorddonen (Jordanian Arab Legion) dan arweiniad Glubb Pasha ei brif ganolfannau yn nhalaith Zarqa.
Daearyddiaeth golygu
Mae Gornad Zarqa Governorate yn ffinio â Mafraq i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, Amman i'r De-orllewin a Jerash a Balqa i'r gorllewin. Mae hefyd yn rhannu ffin ryngwladol â Sawdi Arabia yn ei hochr de-ddwyreiniol.
Qasr Amra, Safle Treftadaeth y Byd golygu
Mae'r rhan fwyaf o'r ardal a gwmpesir gan y Gofernad yn rhan o lwyfandir anialwch Syria. Mae rhanbarthau gorllewinol poblog y dalaith yn rhan o fasn Afon Zarqa. Mae'r ddwy ddinas, Zarqa a Rwseiffa (sillefir hefyd fel Russeifa) yn gorwedd fel ail a phedwerydd dinasoedd fwyaf yr Iorddonen.
Demograffeg golygu
Siroedd Gofernad Zarka Dangosodd gyfrifiad 2004 bod poblogaeth Gofernad Zarqa am y flwyddyn honno yn 764,650 ac ystyrir bod 94.5% yn boblogaeth drefol a 5.5% yn boblogaeth wledig. Roedd dinasyddion yr Iorddonen yn cyfrif am 97% o'r boblogaeth. Y gymhareb benyw i ddynion oedd 46% i 54%. Amcangyfrif poblogaeth Adran Ystadegau Jordanian ar gyfer y flwyddyn 2010 yw 910,800 gyda chymhareb menywod i ddynion o 48.25 i 51.75 a dwysedd poblogaeth o 191.3 o bobl fesul Km sgwâr.
Demographics of Zarqa Governorate | 2004 Census [1] | 2010 Estimate |
---|---|---|
Female to Male ratio | 46% to 54% | 48.25% to 51.75% |
Jordanian citizens to foreign nationals | 97% to 3% | N/A |
Urban population | 727,268 | 860,700 |
Rural population | 37,382 | 50,100 |
Total population | 764,650 | 910,800 |
Poblogaeth yr is-raniadau lleol yn ôl y cyfrifiad:[2]
District | Poblogaeth (Cyfrifiad 1994) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2004) |
Poblogaeth (Cyfrifiad 2015) |
---|---|---|---|
Zarqa Governorate | 639,469 | 764,650 | 1,364,878 |
Al-Hāshimiyah | ... | 46,311 | 80,713 |
Russeifa|Ar-Ruṣayfah (Russeifa) | ... | 268,237 | 481,900 |
Qaṣabah az-Zarqā' | ... | 450,102 | 802,265 |
Economi golygu
Oherwydd ei leoliad agos i'r dinasoedd poblog yr Iorddonen, mae gan Ardal Lywodraethol Zarqa y nifer fwyaf o ffatrïoedd yn yr Iorddonen, ac mae unig ffatri burfa olew yr Iorddonen wedi'i leoli yn Zarqa.
Lleolir Awyrfa Filwrol Muwaffaq Salti (y fwyaf yn y wlad), yn Azraq. Lleoliad hefyd tair prifysgol yn y dalaith: Prifysgol Hashemite,[3] Coleg Cymhwysol Prifysgol-Zarqa,[4] a Phrifysgol Breifat Zarqa.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Jordan National Census of 2004 Table 3-1" (PDF). Dos.gov.jo. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar July 22, 2011. Cyrchwyd 2015-09-27. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Jordan: Administrative Division, Governorates and Districts". citypopulation.de. Cyrchwyd 25 December 2016.
- ↑ "HU. The Hashemite University /الجامعة الهاشمية". Hu.edu.jo. Cyrchwyd 2015-09-27.
- ↑ "Al-Balqa Applied University". Bau.edu.jo. Cyrchwyd 2015-09-27.