Arena Abertawe

neuadd adloniant yn Abertawe

Neuadd adloniant amlbwrpas yw Arena Abertawe wedi ei leoli yn ardal Bae Copr dinas Abertawe. Mae'r arena yn cynnig hyd at 200 o berfformiadau drwy'r flwyddyn yn cynnwys cerddoriaeth, comedi, theatr ac e-chwaraeon ynghyd â chynadleddau a digwyddiadau.

Arena Abertawe
Matharena Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol3 Mawrth 2022 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.616204°N 3.942277°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganAmbassador Theatre Group Edit this on Wikidata
Map

Mae'r brif Awditoriwm yn dal 3,500 drwy gyfuniad o seddi a mannau sefyll ac mae gan y theatr gynadleddau 750 sedd. Mae yna hefyd ystafelloedd cyfarfod i'w llogi.[1]

Datblygwyd yr arena fel rhan o adfywiad yr hen ardal forwrol ger Cei Fictoria, sy'n cynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe'i agorwyd yn swyddogol ar 3 Mawrth 2022 gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.[2] Mae'n cael ei weithredu gan Grŵp Theatr yr Ambassador a sefydlwyd yn 1992.[3]

Cân i Gymru 2024 golygu

Cynhaliwyd ffeinal cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 yn yr Arena. Darlledwyd y gystadleuaeth a'r caneuon yn fyw ar S4C ao 8.00pm ar nos Wener Dydd Gŵyl Dewi.Roedd cyfansoddwr y gân fuddugol yn bachu £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Peregrine, Chris (2022-03-10). "Swansea Arena is now open and it's ready to deliver that wow factor". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-19.
  2. "Agoriad swyddogol cyrchfan £135m Bae Copr Abertawe". Abertawe. Cyrchwyd 2024-02-19.
  3. "Ynglŷn â Ni | Arena Abertawe | Safle Swyddogol". cy.swansea-arena.co.uk. Cyrchwyd 2024-02-19.
  4. "Can i Gymru 2024". Gwefan Arena Abertawe. Cyrchwyd 4 Mawrth 2024.

Dolenni allanol golygu